Joseph Seth Jones

Oddi ar Wicipedia
Joseph Seth Jones
Ganwyd1845 Edit this on Wikidata
Llanfair Talhaearn Edit this on Wikidata
Bu farw1912 Edit this on Wikidata
Sir y Fflint Edit this on Wikidata
Man preswylPatagonia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethdyddiadurwr, clerc, ceidwad goleudy Edit this on Wikidata

Roedd Joseph Seth Jones (18451912)[1] yn un o'r Gymru a fudodd i Batagonia ar long y Mimosa. Roedd yn ugain mlwydd oed ac yn gweithio fel argraffydd i Gwasg Gee pan ffarweliodd a Chymru. Mae'n enw adnabyddus gan iddo gadw cofnod o'r daith drwy ddull dyddiadur.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Joseph Seth Jones ym Mhenanner, plwyf Llanfair Talhaearn. Ef oedd y ieuengaf ond un o wyth o blant Charles a Jane Jones. Mynychoch ysgol Nantglyn cyn iddo orfod symud i ysgol Llanfair Talhaearn. Ar ôl gadael yr ysgol yn bedwar ar ddeg mlwydd oed, dechreuodd Joseph Seth Jones brentisiaeth gyda'r Visitor Office, sef argraffdy Robert Jones, Abergele. Ond gadawodd y swydd honno oherwydd 'amgylchiadau yn y swyddfa' chwe mis cyn gorffen ei brentisiaeth. Ar ôl hyn, fe ddechreuodd ar ei swydd llawn amser fel argraffydd i Wasg Gee, Dinbych.

Gadael Cymru[golygu | golygu cod]

Nid yw'n eglur pam benderfynodd Joseph Seth Jones ymfudo. Credir ambell un iddo gael ei ysbrydoli ar ôl gweld hysbyseb a ymddangosodd yn rhifyn 8 Ebrill o 'Yr Herald Cymraeg', yn gofyn am '12 o fechgyn ieuanc, cynefin a gwaith, ac o gymeriad da' a'r cynnig o 'drefn esmwyth i ad-dalu' costau'r daith. Gwrthododd Gwasg Gee ei ymddiswyddiad yn wreiddiol, ond gadel ei swydd y gwnaeth yn y pen draw er mwyn hwylio o ddociau Lerpwl.

Dyddiadur[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd Joseph Seth Jones ei ddyddiadur rhwng y cyfnodau 19-26 Ebrill 1865, 25 Mai - 27 Gorffennaf 1865 a 14-21 Mawrth 1866. Yn ei nodiadau mae'n son am y diwrnodau oedd yn arwain at gychwyn y fordaith ar Fai 28, yn ogystal â'i gyfnod ar fwrdd y Mimosa.

Llythyrau[golygu | golygu cod]

Yn ogystal ag ysgrifennai ei ddyddiadur, ysgrifennodd Joseph Seth Jones gasgliad o lythyron Archifwyd 2014-12-21 yn y Peiriant Wayback..

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Elvey MacDonald (2002) Dyddiadur Mimosa - Joseph Seth Jones

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Dyddiadur Joseph Seth Jones,. Llyfrgell Cenedlaethol. Adalwyd ar 15 Mai 2016.