José López Portillo

Oddi ar Wicipedia
José López Portillo
GanwydJosé Guillermo Abel López Portillo y Pacheco Edit this on Wikidata
16 Mehefin 1920 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
Bu farw17 Chwefror 2004 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Universidad Nacional Autónoma de México Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, academydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Mecsico, Secretary of Finance and Public Credit Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Universidad Nacional Autónoma de México Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Chwyldroadol Genedlaethol Edit this on Wikidata
Gwobr/auColer Urdd Isabella y Catholig, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd José Martí, Urdd Brenhinol y Seraffim, Coler Urdd Siarl III, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami, Gwobr 'Collar de la Orden Mexicana del Águila Azteca' Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd a chyfreithiwr Mecsicanaidd oedd José López Portillo y Pacheco (16 Mehefin 192017 Chwefror 2004) a oedd yn Arlywydd Mecsico o 1976 i 1982. Efe oedd yr unig ymgeisydd yn etholiad arlywyddol 1976, a hynny ar ran y Partido Revolucionario Institucional (PRI).

López Portillo oedd yr olaf o'r arlywyddion "Cenedlaetholgar" o ran polisi economaidd Mecsico.[1] Yn ystod ei arlywyddiaeth ffynodd yr economi ar sail y diwydiant olew, cyn i argyfwng dyled daro'r wlad yn drom. Noder ei lywodraeth hefyd gan lygredigaeth, lladrata, a ffafriaeth at berthnasau a chyfeillion.[2][3]

Wedi iddo adael ei swydd, yn ystod arlywyddiaeth ei olynydd Miguel de la Madrid, cafodd nifer o swyddogion llywodraethol eu cyhuddo o lygredigaeth a'u herlyn. Tybiai nifer i López Portillo ei hun fod yn euog o droseddau tebyg, ond na chafodd y gyfraith ei roi arno hyd ddiwedd ei oes.[4]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd José López Portillo yn Ninas Mecsico. Astudiodd yn Universidad Nacional Autónoma de México (UNAM) a Phrifysgol Tsile.

Arlywyddiaeth (1976–82)[golygu | golygu cod]

Yr economi[golygu | golygu cod]

Fideos allanol
Yr Arlywydd López Portillo yn gwneud ei addewid drwg-enwog i amddiffyn y peso como perro.

Dilynai polisïau ceidwadol gan López Portillo o gymharu â'i ragflaenydd, Echeverría, er iddo barhau â'r arfer o genedlaetholdeb economaidd. Rhoddwyd llai o bwyslais ar amaeth ac ailddosbarthu tir, a chanolbwyntiodd y llywodraeth ar ddatblygu'r diwydiannau olew a nwy naturiol ac atynnu buddsoddiad tramor. Yn ystod arlywyddiaeth López Portillo, darganfyddwyd cronfeydd petroliwm yn Veracruz a Tabasco gan ddarparu elw mawr i Pemex, y cwmni olew cenedlaethol, drwy allforion. Rhuthrodd y llywodraeth i wneud yn fawr o'r arian annisgwyl, trwy wariant cyhoeddus ar raddfa eang a benthyg rhagor o arian o dramor. Er i'r rhaglen hon sbarduno twf economaidd ym Mecsico, cafodd y cyfoeth ei wastraffu gan gwmnïau cyhoeddus a'i ladrata gan swyddogion y llywodraeth a'r undebau llafur. Pan gwympodd y pris petroliwm yn 1981, bu enciliad cyfalaf o'r wlad a methodd y llywodraeth i dalu'r ddyled dramor yn Awst 1982. Er i López Portillo addo y byddai'n amddiffyn y peso como perro (fel ci), cafodd y peso ei ddibrisio 40 y cant ganddo.[5]

Polisi tramor[golygu | golygu cod]

Yn 1977 adferwyd cysylltiadau diplomyddol rhwng Mecsico a Sbaen yn sgil marwolaeth Francisco Franco.

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod]

Daeth yr argyfwng economaidd a llygredigaeth ei lywodraeth anghold i López Portillo, a chymaint oedd ei amhoblogrwydd bu'n rhaid iddo ffoi o Fecsico. Dychwelodd yn niwedd y 1980au, a chyhoeddodd ei hunangofiant Mis tiempos: Biografía y testimonio político (1988).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Sheppard, Randal (2016). A Persistent Revolution. History, Nationalism and Politics in Mexico since 1968. University of New Mexico Press. tt. 78.
  2. "Lopez Portillo Denies He Became Rich as President". LA Times. Cyrchwyd 8 March 2018.
  3. "José López Portillo, President When Mexico's Default Set Off Debt Crisis, Dies at 83". New York Times. Cyrchwyd 8 March 2018.
  4. "CORRUPTION, MEXICAN STYLE". New York Times. Cyrchwyd 8 March 2018.
  5. (Saesneg) Phil Gunson, "Obituary: José López Portillo", The Guardian (20 Chwefror 2004). Adalwyd ar 31 Mai 2018.