Lázaro Cárdenas
Gwedd
| Lázaro Cárdenas | |
|---|---|
| Ganwyd | 21 Mai 1895 Jiquilpan de Juárez |
| Bu farw | 19 Hydref 1970 Dinas Mecsico |
| Dinasyddiaeth | Mecsico |
| Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
| Swydd | Arlywydd Mecsico, Llyweodraethwr Michoacán, gweinidog amddiffyn, Secretary of National Defense |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Chwyldroadol Genedlaethol |
| Priod | Amalia Solórzano |
| Plant | Cuauhtémoc Cárdenas Solórzano |
| Gwobr/au | Gwobr Heddwch Lennin, Urdd Eryr Mecsico, Urdd Playa Girón, Urdd Carlos Manuel de Céspedes, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica |
Gwleidydd a chadfridog o Fecsico oedd Lázaro Cárdenas del Río (21 Mai 1895 – 19 Hydref 1970) oedd yn Arlywydd Mecsico o 1934 i 1940.
Ymunodd Cárdenas â'r fyddin chwyldroadol yn 18 oed, a chafodd ei ddyrchafu'n gadfridog yn 1920. Fe'i etholwyd yn Llywodraethwr Michoacán yn 1928, ac yn 1930 fe'i dewiswyd yn llywydd y Partido Nacional Revolucionario (PNR; bellach y Partido Revolucionario Institucional). Ymgyrchodd Cárdenas am yr arlywyddiaeth yn 1934, gan ymweld â bron pob un ddinas, tref a phentref ym Mecsico.[1] Enillodd yr etholiad a dechreuodd ar raglen o ddiwygio'r cefn gwlad ac ailddosbarthu tir.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Lázaro Cárdenas. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Mai 2018.