Antonio López de Santa Anna

Oddi ar Wicipedia
Antonio López de Santa Anna
Portread o Antonio López de Santa Anna gan Carlos Paris.
GanwydAntonio de Padua María Severino López de Santa Anna y Pérez de Lebrón Edit this on Wikidata
21 Chwefror 1794 Edit this on Wikidata
Xalapa Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mehefin 1876 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
Man preswylSant Tomos, Captaincy General of Cuba, Colombia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico, Sbaen Newydd Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Mecsico, Governor of Yucatán, Arlywydd Mecsico, Arlywydd Mecsico, Arlywydd Mecsico, Arlywydd Mecsico, Arlywydd Mecsico, Arlywydd Mecsico, Arlywydd Mecsico, Arlywydd Mecsico, Arlywydd Mecsico, Arlywydd Mecsico Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLiberal Party Edit this on Wikidata
PriodInés García de López de Santa Anna Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Siarl III Edit this on Wikidata
llofnod

Milwr a gwleidydd Mecsicanaidd oedd Antonio López de Santa Anna Pérez de Lebrón (21 Chwefror 179421 Mehefin 1876) a fu'n ffigur blaenllaw yn hanes Mecsico yn y 19g. Gwasanaethodd yn Arlywydd Mecsico sawl gwaith yn y cyfnod o 1833 i 1855. Arweiniodd y lluoedd Mecsicanaidd i gipio'r Alamo yn ystod Chwyldro Texas (1835–36), ond bu'r Cadfridog Sam Houston yn drech arno ym Mrwydr San Jacinto. Adenillodd Santa Anna rym wedi iddo gael ei anafu yn ystod cyrch y Ffrancod ar Veracruz ym 1838. Aeth yn alltud yn sgil methiant ei wlad yn Rhyfel Mecsico a'r Unol Daleithiau (1846–48). Dychwelodd i'r arlywyddiaeth ym 1853, ond cafodd ei ddymchwel mewn gwrthryfel ym 1855.

Ganed yn Jalapa, Rhaglywiaeth Sbaen Newydd, yn fab i swyddog yn yr awdurdodau trefedigaethol. Gwasanaethodd ym Myddin Sbaen a chafodd ei ddyrchafu'n gapten.

Ym 1821 rhoes ei gefnogaeth i Agustín de Iturbide yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Mecsico, ond ym 1823 arweiniodd Santa Anna wrthryfel yn erbyn yr Ymerawdwr Agustín, gan sefydlu'r Weriniaeth Ffederal Gyntaf. Enillodd yr enw "Arwr Tampico" am yrru'n ôl ymgyrch y Sbaenwyr i oresgyn gogledd-orllewin y wlad ym 1829. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cynllwyniodd Santa Anna i ddymchwel yr Arlywydd Vicente Guerrero a rhoi'r Is-arlywydd Anastasio Bustamante yn ei le.

Etholwyd Santa Anna yn arlywydd am y tro cyntaf ym 1833 wedi iddo ymgyrchu o blaid ffederaliaeth ac yn erbyn yr Eglwys Gatholig. Er gwaethaf, aeth ati i sefydlu llywodraeth hynod o ganolog. Nid oedd yn hoff o waith llywodraethol, ac ildiodd yr awennau sawl tro i'w is-arlywydd, Valentín Gómez Farías, fod yn arlywydd dros dro.

Aeth i'r gogledd ym 1836 yn sgil gwrthryfel gan setlwyr yn rhanbarth Texas. Yn ystod ei ymgyrch gosb, datganwyd annibyniaeth Gweriniaeth Texas oddi ar Fecsico. Enillodd Santa Anna frwydrau'r Alamo a Goliad, ond yn sgil buddugoliaeth lluoedd Sam Houston yn San Jacinto cafodd ei gipio. Arwyddwyd Cytundebau Velasco gan Santa Anna a David G. Burnet, arlywydd dros dro Texas, yn ildio tiriogaethau Mecsico i ogledd Rio Grande. Dychwelodd Santa Anna i Fecsico heb rym.

Ym 1838, arweiniodd Santa Anna luoedd i Veracruz, a oedd dan warchae gan lynges Ffrainc. Collodd ei goes yn ystod ysgarmes, ac er i'r Ffrancod ennill y frwydr bu Santa Anna yn uchel ei fri unwaith eto. Cipiodd rym ym Mawrth 1839 a bu'n unben ar Fecsico hyd at Orffennaf. Cipiodd rym eto ym 1841, a bu'n arlywydd y wlad, ac yn ildio'r awennau yn rheolaidd i'w is-arlywyddion, nes iddo gael ei yrru'n alltud ym 1845.

Ar ddechrau'r rhyfel rhwng Mecsico ac Unol Daleithiau America ym 1846, cytunodd yr Arlywydd James K. Polk i anfon Santa Anna i Fecsico er mwyn trafod heddwch. Yn hytrach, penodwyd Santa Anna yn gadlywydd y lluoedd Mecsicanaidd ac arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn yr Americanwyr. Cafodd ei fyddin ei gyrru ar ffo gan y Cadfridog Winfield Scott, a'r Americanwyr oedd yn fuddugol. Ymddeolodd Santa Anna i Jamaica ym 1847, a symudodd i Granada Newydd ym 1853 cyn gwasanaethu yn yr arlywyddiaeth am y tro olaf.

Ym 1864, ceisiodd Santa Anna gefnogaeth yr Unol Daleithiau i ddiorseddu Maximilian, Ymerawdwr Mecsico. Ar yr un pryd, cynigodd ei wasanaeth i'r Ymerawdwr Maximilian. Gwrthodwyd ei gynigion gan y ddwy ochr. Dyn tlawd a dall oedd Santa Anna erbyn iddo gael caniatâd i ddychwelyd i'w famwlad ym 1874, a bu farw yn Ninas Mecsico ar 21 Mehefin 1876 yn 82 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Antonio López de Santa Anna. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Chwefror 2021.