Porfirio Díaz
| Porfirio Díaz | |
|---|---|
| Ganwyd | José de la Cruz Porfirio Díaz Mori 15 Medi 1830 Oaxaca |
| Bu farw | 2 Gorffennaf 1915 Paris |
| Dinasyddiaeth | Mecsico |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
| Swydd | Arlywydd Mecsico, gweinidog, Aelod o Siambr Dirprwyon Mecsico |
| Plaid Wleidyddol | Liberal Party |
| Mudiad | Porfiriato |
| Priod | Delfina Ortega Díaz, Carmen Romero Rubio |
| Plant | Amada Díaz, Porfirio Díaz Ortega, Luz Aurora Victoria Díaz Ortega |
| Perthnasau | Ignacio de la Torre y Mier |
| Gwobr/au | Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Knight Grand Cross of the Order of Saint Stephen of Hungary, Uwch Cordon Urdd Leopold, Marchog Uwch Groes Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Marchog Fawr Groes yn Urdd Llew yr Iseldiroedd, Grand Collar of the Order of the Tower and Sword, Knight Grand Cross of the Order of the Sword, Urdd dros ryddid, Uwch Croes Urdd Siarl III, Urdd yr Eryr Coch, radd 1af, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Order of the Lion and the Sun First class, Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky, Urdd y Ddraig Ddwbl, Coler Urdd Siarl III |
| llofnod | |
Gwleidydd a milwr [o Fecsico oedd Porfirio Díaz (15 Medi 1830 – 2 Gorffennaf 1915) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1877 i 1880 ac o 1884 i 1911.
Ganwyd yn Oaxaca de Juárez yn nhalaith Oaxaca yn ne Mecsico. Roedd yn mestizo ac yn hanu o dras frodorol. Dechreuodd hyfforddi i fod yn offeiriad yn 15 oed. Ymunodd â'r fyddin a gwasanaethodd yn Rhyfel Mecsico a'r Unol Daleithiau (1846–48), yn Rhyfel La Reforma (1857–60), ac yn y frwydr yn erbyn y Ffrancod yn 1861–67.[1]
Yn 1876 arweiniodd Díaz wrthryfel yn erbyn yr Arlywydd Sebastián Lerdo de Tejada a chafodd ei ethol yn arlywydd y wlad ym Mai 1877. Ac eithrio'r cyfnod 1880–84, pryd gwasanaethodd y Cadfridog Manuel González yn arlywydd, Díaz oedd unben y wlad am fwy na 30 mlynedd, cyfnod a elwir el porfiriato. Wedi iddo ennill etholiad arlywyddol 1910 drwy dwyll, dechreuodd Chwyldro Mecsico yn ei erbyn. Ymddiswyddodd Díaz o'r arlywyddiaeth ar 25 Mai 1911 ac aeth i Ewrop yn alltud. Bu farw ym Mharis yn 84 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Porfirio Díaz. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Medi 2019.