John Pughe

Oddi ar Wicipedia
John Pughe
Ganwyd8 Medi 1814 Edit this on Wikidata
Llanddeusant Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ebrill 1874 Edit this on Wikidata
Aberdyfi Edit this on Wikidata
Man preswylClynnog Fawr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysbyty Sant Tomos Edit this on Wikidata
Galwedigaethmeddyg Edit this on Wikidata

Meddyg ac awdur oedd John Pugh neu Ioan ab Hu Feddyg (8 Medi 1814 – 9 Ebrill 1874).

Fe'i ganed yn "Ysgubor Fawr", Chwaen Wen, Llanddeusant, Sir Fôn, yn fab hynaf i David Roberts Pughe ac Elizabeth ei wraig.

Cymhwysodd fel meddyg yn Ysbyty Sant Thomas, Llundain lle cafodd radd F.R.C.S. Ymsefydlodd am ychydig fel meddyg yn Abermaw gan gartrefu wedyn yn Aberdyfi lle'r arhosodd am y rhan fwyaf o'i oes. Treuliodd ran o dymor ei ieuenctid yng NghlynnogArfon, lle'r oedd yn gyfaill i Eben Fardd.[1]

Priodi a phlant[golygu | golygu cod]

Priododd Catherine Samuel, merch Samuel Samuel, Caernarfon ar 21 Chwefror 1839; bu hi farw 14 Hydref 1862 ym Mhenhelyg, Aberdyfi. Daeth pedwar o'u meibion yn feddygon o fri:

  • John Eliot Howard (bu f. 1880 )
  • Rheinallt Navalaw, 
  • Taliesin William Owen (bu f.1893 ), yn gwasanaethu yn Lerpwl
  • David Roberts (bu f. 1885 ) yn Sir Drefaldwyn.

Merch iddynt oedd yr arlunydd Buddug Anwylini Pugh, a fu farw yn Lerpwl ar 2 Mawrth 1939 yn 83 mlwydd oed. Ysgrifennodd Buddug Pughe hanes ardal ei mebyd, ond ni chyhoeddwyd y llawysgrif.

Tra yn Aberdyfi a'r cylch, gwasanaethodd fel ustus heddwch a noddwr llawer o achosion dyngarol a chrefyddol. O ran ei ddaliadau crefyddol gogwyddai at y Plymouth Brethren, a phregethai gyda'r enwad hwnnw yn yr eglwys a gychwynnwyd ganddo yn y cylch. Bu farw 9 Ebrill 1874, a'i gladdu ym mynwent Capel Maethlon, tir a berthynai i'r teulu.

Cyfieithodd Meddygon Myddfai, The Physicians of Myddfai , a olygwyd gan John Williams (Ab Ithel) ac a gyhoeddwyd gan y Welsh MSS. Society, 1864.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lewis, Idwal (1953–54). "Y Bywgraffiadur Cymreig". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2017.CS1 maint: date format (link)