Neidio i'r cynnwys

John Field

Oddi ar Wicipedia
John Field
Ganwyd26 Gorffennaf 1782 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 1837 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Galwedigaethpianydd, cyfansoddwr, athro, bardd Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol, Hwyrgan Edit this on Wikidata
PlantLeon Leonov Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr o Wyddel oedd John Field (26 Gorffennaf 1782 - 23 Ionawr 1837), a aned yn Nulyn. Daeth yn enwog fel un o'r prif gyfansoddwyr i'r piano yn ei ddydd a edmygid gan Haydn a Schumann.

Roedd ei daid yn organydd a phianydd yn Nulyn a'i dad yn fiolinydd mewn cerddorfa yn yr un ddinas. Rhoddodd ei berfformiad cyntaf yn wyth oed, wedi ei hyfforddi gan Giordani. Yn llanc 11 oed, aeth gyda'i dad i fyw yn Llundain. Cafodd ei hyfforddi ymhellach yno gan Clementi. Perfformiodd o flaen cynulleidfa a oedd yn cynnwys Haydn, a ganmolodd ei berfformiad a darogan dyfodol llewyrchus iddo.

Aeth i St Petersburg, Rwsia, gyda Clementi. Arhosodd yno a daeth yn ffefryn yng nghylchoedd aristocrataidd y ddinas. Ymhlith ei ddisgyblion achlysurol roedd y Glinka ifanc. Teithiodd Ewrop wedyn fel pianydd virtuoso. Bu farw yn St Petersburg.

Ei waith

[golygu | golygu cod]

Fel cyfansoddwr cerddoriaeth i'r piano, daeth yn adnabyddus ledled y cyfandir. Dyfeisiodd ac enwodd y Nocturne i'r piano; mae Chopin yn ddyledus iddo am y rhain. Cyhoeddodd Liszt argraffiad o nocturnes Field gyda rhagair canmoliaethus.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  • Percy A. Scholes, The Oxford Companion to Music (Rhydychen, 10fed argraffiad, 1995)