Hwyrgan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Nocturne)

Mae hwyrgan neu Nocturne (Ffrangeg, hefyd Eidaleg Notturno) yn gyfansoddiad cerddorol, clasurol, yn aml ar gyfer y piano. Fe'i nodweddir gan ei arafwch gosgeiddig ac sy'n awgrymu ceinder y nos. Mae'n ffurf gerddorol sy'n nodweddiadol o Ramantiaeth y 19g.

Er bod y nocturne yn dyddio i ddiwedd y 18g fel ffurf ar gyfer sawl offeryn cerddorol, fe'i cysylltir yn neilltuol â'r ffurf ar gyfer y piano a ddyfeisiwyd gan y cyfansoddwr o Wyddel John Field ac a gafodd ei pherffeithio gan Chopin.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.