Johann Joachim Quantz
Johann Joachim Quantz | |
---|---|
![]() Portread o Johann Joachim Quantz (1735) gan Johann Friedrich Gerhard (m. 1754)] | |
Ganwyd |
30 Ionawr 1697 ![]() Scheden ![]() |
Bu farw |
12 Gorffennaf 1773 ![]() Potsdam ![]() |
Dinasyddiaeth |
Yr Almaen, Deyrnas Prwsia ![]() |
Galwedigaeth |
cyfansoddwr, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, musical instrument maker, ffliwtydd, chwaraewr obo, trympedwr ![]() |
Arddull |
cerddoriaeth faróc ![]() |
Mudiad |
cerddoriaeth faróc ![]() |
Ffliwtydd a chyfansoddwr Almaenaidd o'r cyfnod Baróc oedd Johann Joachim Quantz (Almaeneg: [kvants]; 30 Ionawr 1697 – 12 Gorffennaf 1773).
Ysgrifennodd gannoedd o sonatâu a concerti ar gyfer y ffliwt yn bennaf. Mae'n adnabyddus fel awdur Versuch einer Anweisung die Flöte traversiere zu spielen ("Traethawd ar ddull o chwarae'r ffliwt draws"; Berlin, 1752). Mae ei lyfr yn ffynhonnell gyfeirio werthfawr ynghylch ymarfer perfformiad a thechneg ffliwt yn y 18g.
Ganwyd ym 1697 yn Oberscheden, yn agos i Göttingen, yn Etholaeth Hannover. Roedd ei dad yn gof. Ym 1718 daeth yn gerddor yn Dresden, yn llys Augustus II, Etholydd Sachsen a Brenin Gwlad Pwyl.
Ym 1728 penderfynodd Ffredrig Fawr, Tywysog Coronog Prwsia ar y pryd, astudio'r ffliwt yn groes i ddymuniadau ei dad gormesol, Friedrich Wilhelm II o Brwsia. Daeth Quantz yn athro iddo, a byddai'n teithio'n aml o Dresden i Berlin i roi gwersi iddo. Ar ôl i Ffredrig ddod yn frenin Prwsia ym 1740, cymerodd Quantz swydd athro ffliwt, gwneuthurwr ffliwt a chyfansoddwr yn ei lys yn Berlin. Arhosodd yno hyd ei farwolaeth ym 1773.