Joan Elizabeth Curran

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Joan Curran
Ganwyd (1916-02-26)26 Chwefror 1916
Abertawe, Cymru
Bu farw 10 Chwefror 1999(1999-02-10) (82 oed)
Glasgow, yr Alban
Bu fyw yn United Kingdom
Cenedligrwydd British
Sefydliadau Labordy Cavendish
Telecommunications Research Establishment
Labordy Cenedlaethol Lawrence Berkeley
Alma mater Prifysgol Caergrawnt (B.A., M.A.)
Enwog am Dyfeisio 'Chaff'

Gwyddonydd Cymreig oedd Joan Elizabeth Curran (26 Chwefror 191610 Chwefror 1999) a chwaraeodd ran flaenllaw yn natblygiad y radar a'r bom atomig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dyfeisiodd 'Chaff', sef offer a oedd yn ymwneud â radar, a honir i'r ddyfais honno arbed miloedd o fywydau awyrlu'r Cynghreiriaid yn ystod y rhyfel. Datblygodd hefyd y 'ffiws-agos' (proximity fuse) a'r broses gwahanu eisotopau ymbelydrol ar gyfer creu'r bom atomig, drwy buro wraniwm.

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed ar 26 Chwefror yn Abertawe, yn ferch i Charles Williams Strothers a oedd yn optegydd a'i wraig Margaret Beatrice, née Millington.[1] Yn Ysgol y Merched, yn Abertawe, y derbyniodd ei haddysg uwchradd cyn ennill ysgoloriaeth i Goleg Newnham, Caergrawnt.[2] Yn 1935, rhwyfodd i Glwb Merched y coleg,[3] yn y ras swyddogol gyntaf rhwng Caergrawnt a Rhydychen (yr Henley Boat Race).[4]

Derbyniodd radd gydag anrhydedd mewn ffiseg,[5] ond ni dderbyniodd y radd, gan nad oedd hawl gan ferched ar y pryd i'w dderbyn.[6]

Derbyniodd radd anrhydedd yn y gyfraith, pan oedd yn ei 70au gan Brifysgol Strathclyde.[5]

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Derbyniodd nawdd i astudio ar gyfer gradd pellach a throdd ei golygon tua Labordai Cavendish yng Nghaergrawnt, Sam Curran, gan weithio gydag ef mewn tîm dan arolygiaeth Philip Dee. Ar 7 Tachwedd 1940 priododd Joan a Sam Curran.

Periant gwahanu neu 'buro' wraniwm yn Oak Ridge, UDA, lle gweithiai Joan Elizabeth Curran.

Yn 1944 fe wahoddwyd y ddau (Joan a Sam) i'r Unol Daleithiau fel rhan o Brosiect Manhattan, i weithiod ar y bom atomig.[7] Roedd llawer o ffisegwyr wedi ymgasglu i weithio o Galiffornia, gyda Mark Oliphant yn eu harwain. Eu gwaith oedd puro wraniwm drwy wahanu'r isotopau.[8] Mae wraniwm naturiol yn cynnwys 99.3% wraniwm-238 a 0.7% wraniwm-235, ond dim ond yr ail isotop ellir ei ddefnyddio i greu bom ac felly roedd yn rhaid darganfod dull i wahanu'r ddau. Gelwir hyn yn 'buro wraniwm' neu 'buro plwtoniwm'.[9] Cynhyrchwyd 50 kg o wraniwm 'pur' ar gyfer Little Boy, bom a ollyngwyd ar ddinas Hiroshima ar 6 Awst 1945 gan ladd 66,000 o bobol ac anafwyd oddeutu 69,000.[10]

Yno, yn Berkley, Califfornia rhoddodd enedigaeth i ferch, a anwyd â phroblemau meddyliol enbyd.[2] Yn ddiweddarach cawsant dri mab.[1]

Wedi'r Rhyfel

Ar ddiwedd y Rhyfel, derbyniodd swydd Athro prifysgol Athroniaeth Naturiol ym Mhrifysgol Glasgow.[8] Yno, gyda ffrindiau'r teulu, sefydlodd 'Gymdeithas Plant gyda Phroblemau meddyliol' (Scottish Society for the Parents of Mentally Handicapped Children (byrfodd: Enable), a dyfodd i fod yn gymdeithas o dros gant o ganghennau ledled yr Alban, a 5,000 o aelodau.[2][5]

Rhwng 1955 a 1959 gweithiodd ei gŵr Sam i'r Atomic Weapons Research Establishment yn Aldermaston ar y bom hydrogen a dychwelodd ati i Glasgow yn 1959 fel Prifathro Coleg Brenhinol Gwyddoniaeth a Thechnoleg (a drodd yn ddiweddarach yn 'Brifysgol Strathclyde' - yn 1964, ac fe'i wnaed yn Brifathro ac Is-Ganghellor y brifysgol newydd.[11] Yr un pryd, sefydlodd Joan the Strathclyde Women's Group ac fe'i gwnaed yn Llywydd.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Fletcher, Bill. "Joan Elizabeth Curran, Lady Curran (1916–1999)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online.). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/71958. (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  2. 2.0 2.1 2.2 Dalyell, Tam (19 February 1999). "Obituary: Joan Curran". The Independent. http://www.independent.co.uk/arts-entertainment/obituary-joan-curran-1071704.html. Adalwyd 14 Mawrth 2015.
  3. NCBC Captain's log book (1935). Newnham College archives.
  4. "The BNY Mellon Boat Races - Origin". Boat Race Company. Cyrchwyd 15 March 2015.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Fletcher, Bill (16 February 1999). "Lady Curran". Herald Scotland. http://www.heraldscotland.com/sport/spl/aberdeen/lady-curran-1.305380. Adalwyd 14 Mawrth 2015.
  6. Chambers, Suzanna (31 May 1999). "At last, a degree of honour for 900 Cambridge women". The Independent. http://www.independent.co.uk/news/at-last-a-degree-of-honour-for-900-cambridge-women-1157056.html. Adalwyd 14 Mawrth 2015.
  7. Turner, Robin (8 Ionawr 2015). "Swansea scientist Joan made a huge difference to the world and should not be forgotten". Wales Online. http://www.walesonline.co.uk/news/news-opinion/swansea-scientist-joan-made-huge-8409571. Adalwyd 3 May 2015.
  8. 8.0 8.1 Fletcher 1999, tt. 100–101.
  9. Smyth 1945, tt. 154–156.
  10. The Manhattan Engineer District (29 Mehefin 1945). "The Atomic Bombings of Hiroshima and Nagasaki". Project Gutenberg Ebook. docstoc.com. p. 3. External link in |publisher= (help)
  11. Fletcher 1999, tt. 102–103.