Jamie Wallis
Jamie Wallis | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mehefin 1984 Betws |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Mae Jamie Hamilton Wallis (ganwyd 2 Mehefin 1984) [1] yng ngwleidydd Plaid Geidwadol Prydain sydd wedi bod yn Aelod Seneddol (AS) Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghymru ers 2019, gan drechu Madeleine Moon o Lafur yn yr etholiad cyffredinol 2019.[2]
Ganwyd Wallis yn Bettws. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Gatholig St Robert yn Aberkenfig, Ysgol St Clare ym Mhorthcawl, Ysgol Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac Eglwys Crist, Rhydychen.[3] Cafodd doethuriaeth mewn Astrobioleg gan Brifysgol Caerdydd.[4]
Gyrfa busnes
[golygu | golygu cod]Yn ol Buzzfeed roedd Wallis yn gyd-berchennog gwefan 'dadi siwgr', "a oedd yn cynnig perthynas ariannol i fyfyrwyr gyda 'noddwyr' cyfoethog". Canfu Buzzfeed ei fod wedi bod yn gyfarwyddwr ac yn gyfranddaliwr rhiant-gwmni'r wefan.[5] Galwodd yr Aelod Seneddol Llafur Jess Phillips am gael gwared â Wallis.[6]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ar 28 Tachwedd 2021, gaeth Wallis ei harestio ar amheuaeth o yrru tra'n anaddas ar ôl damwain car yn Llanfleiddan, Bro Morgannwg, lle mae e'n byw.[7] Ar 28 Ebrill 2022, gaeth Wallis ei gyhuddo o fethu â stopio ar ôl y ddamwain car yn Llanfleiddan.[8]
Ar 30 Mawrth 2022, daeth Wallis allan fel person trawsryweddol, gan ddod yr Aelod Seneddol cyntaf i ddod allan fel trawsryweddol yn San Steffan.[9][10] Yn ei ddatganiad cyhoeddus, dywedodd Wallis ei fod am barhau defnyddio'r rhagenw personol "ef", "ar hyn o bryd".[11] Roedd ei ddatganiad cyhoeddus hefyd yn dweud fod Wallis wedi cael ei flacmêlio yn Ebrill 2020 am ei hunaniaeth rhywiol a cafodd ei dreisio ym Medi 2021.[9]
Ar 11 Gorffennaf 2022 mewn achos llys yn Llys Ynadon Caerdydd, cafwyd Wallis yn euog o fethu â stopio ac adrodd am ddamwain, gan adael ei gar mewn safle peryglus, ond ei glirio o yrru heb ofal a sylw dyladwy. Cafodd ddirwy o £2,500 a'i wahardd rhag gyrru am chwe mis. Dywedodd y barnwr nad oedd ei esboniad yn gredadwy.[12]
Sylwadau ar Liz Truss
[golygu | golygu cod]Cefnogodd Wallis Liz Truss fel arweinydd y blaid, ond ym mis Hydref 2022 dywedodd y dylai ymddiswyddo. Honnodd fod ASau Ceidwadol eraill wedi defnyddio materion trawsryweddol fel arf yn ei erbyn.[13]
Dywedodd Suella Braverman nad yw hi'n ystyried galw person traws wrth ei hen enw yn fwriadol yn drosedd casineb.[14]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Madeleine Moon |
Aelod Seneddol dros Pen-y-bont ar Ogwr 2019 – presennol |
Olynydd: presennol |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Jamie Wallis". Who Can I Vote For? (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Ionawr 2019.
- ↑ "Election 2019 - Bridgend". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Rhagfyr 2019.
- ↑ Christ Church, Oxford (2007). Christ Church 2006 (yn Saesneg). Oxford: Christ Church, Oxford. t. 133.
- ↑ "The New Boys and Girls No. 5: Jamie Wallis" (yn en). Private Eye (1516): 12. 21 Chwefror 2020.
- ↑ Wickham, Alex. "A New Tory MP Claimed He Wasn't Involved With A "Sugar Daddy" Service His Website Promoted. He Actually Co-Owned It". BuzzFeed. Cyrchwyd 13 Ionawr 2020.
- ↑ "Jess Phillips urges Tories to suspend new MP linked to 'sugar daddy' website". inews (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Ionawr 2020.
- ↑ "Bridgend MP arrested on suspicion of driving while unfit". BBC News (yn Saesneg). 19 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2021.
- ↑ "Cyhuddo AS Pen-y-bont o fethu â stopio ar ôl damwain car". BBC News. 28 Ebrill 2022. Cyrchwyd 28 Ebrill 2022.
- ↑ 9.0 9.1 "AS 'eisiau bod yn drawsryweddol ac wedi cael fy nhreisio'". BBC Cymru Fyw. 30 Mawrth 2022. Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
- ↑ "Statement from Jamie Wallis MP – 30th March 2022" (yn Saesneg). Jamie Wallis MP. 30 Mawrth 2022. Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
- ↑ "Follow-up statement from Jamie Wallis MP" (yn Saesneg). Jamie Wallis MP. 30 Mawrth 2022. Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
- ↑ "Jamie Wallis: MP found guilty of driving offences" (yn Saesneg). BBC Wales. 11 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2022.
- ↑ "Aelod Seneddol Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr yn galw am ymddiswyddiad Liz Truss". Golwg360. 16 Hydref 2022. Cyrchwyd 18 Hydref 2022.
- ↑ Nadeem Badshah (16 Hydref 2022). "Jamie Wallis accuses fellow Tory MPs of exploiting trans issues during contest for PM". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Hydref 2022.