Suella Braverman
Suella Braverman | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Ebrill 1980 ![]() Harrow ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bargyfreithiwr, gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Parliamentary Under-Secretary of State for Exiting the European Union, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Twrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru, Twrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru, Ysgrifennydd Cartref, Ysgrifennydd Cartref ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol ![]() |
Gwefan | https://www.suellabraverman.co.uk/ ![]() |
Gwleidydd a bargyfreithiwr Prydeinig yw Sue-Ellen Cassiana " Suella " Braverman QC AS (ganed Fernandes; ganwyd 3 Ebrill 1980) sydd wedi bod yn Dwrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr ers 2020. Mae hi wedi bod yn Aelod Seneddol (AS) dros Fareham ers 2015.
Mae Braverman yn aelod o’r Blaid Geidwadol. Bu’n gadeirydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd rhwng 19 Mehefin 2017 a 9 Ionawr 2018. Rhoddwyd “QC” iddi ar ôl ei phenodiad fel Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr ac Adfocad Cyffredinol Gogledd Iwerddon ym mis Chwefror 2020, ar ôl peidio â “ chymeryd sidan ” ymlaen llaw [1].[2]
Cafodd Braverman ei geni yn Harrow, Llundain Fwyaf, a'i magu yn Wembley[3] yn ferch i Christie ac Uma Fernandes, o dras Indiaidd,[4] [5] a oedd wedi ymfudo i Brydain yn y 1960au o Kenya a Mauritius .
Cafodd Braverman ei addysg yn Ysgol Gynradd Uxendon Manor yn Brent a'r Ysgol preifat Heathfield, Pinner [3][6] Darllenodd y gyfraith yng Ngholeg y Breninesau, Caergrawnt.
Yn 2022 bu'n ymgeisydd aflwyddiannus yn yr etholiad ar gyfer arweinydd newydd y blaid Geidwadol.[7] Penodwyd Braverman yn Ysgrifennydd Cartref gan Liz Truss[8] ond ymddiswyddodd ar ôl chwe wythnos.[9]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Joshua Rozenberg QC (November 2020). "Silk but no silken tongue". The Critic (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mehefin 2022. Cyrchwyd 12 Mehefin 2022.
- ↑ Joshua Rozenberg (17 February 2020). "Jury's out for the new attorney general". The Critic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ebrill 2021. Cyrchwyd 13 Mehefin 2022.
- ↑ 3.0 3.1 "About Suella" (yn Saesneg). Suella Braverman. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2022. Cyrchwyd 8 Ebrill 2017.
- ↑ "Supplement on Suella Fernandes". Goan Voice UK (yn Saesneg). 2003–2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2022. Cyrchwyd 11 Chwefror 2018.
- ↑ Brogan, Benedict (14 Gorffennaf 2003). "Supplement on Uma Fernandes". Goan Voice UK (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2022. Cyrchwyd 11 Chwefror 2018.
- ↑ McGauran, Ann (2 Gorffennaf 2015). "Who's on the new education select committee?". Schools Week (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 8 Ebrill 2017.
- ↑ Joshua King (14 Gorffennaf 2022). "Conservative Leadership: Suella Braverman eliminated as Tory Prime Minister contenders whittled down to five". The Scotsman (yn Saesneg).
- ↑ Morris, Seren (6 Medi 2022). "Who is Suella Braverman? Leadership rival tipped for Home Secretary". Evening Standard (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Medi 2022.
- ↑ "Suella Braverman to depart as Home Secretary after just six weeks in the job". ITV News (yn Saesneg). 19 Hydref 2022. Cyrchwyd 19 Hydref 2022.