James Woolley Summers

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
James Woolley Summers
James-Woolley-Summers-AS-Fflint.jpg
Ganwyd 24 Mawrth 1849 Edit this on Wikidata
Dukinfield Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Ionawr 1913 Edit this on Wikidata (63 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd, diwydiannwr Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o'r 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Plant Lilias Mason Summers Edit this on Wikidata

Roedd James Woolley Summers, (24 Mawrth 1849 - 1 Ionawr 1913) yn feistr haearn ac yn un o'r brodyr a sefydlodd gwaith dur Shotton yn Sir y Fflint. Bu hefyd yn cynrychioli etholaeth Bwrdeistrefi'r Fflint fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol rhwng 1910 a 1913[1].

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Summers yn Dukinfield, Swydd Caer (Manceinion Fwyaf, bellach), yn fab i John Summers, saer clocsiau a Mary (née Woolley) ei wraig. Fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Anglicanaidd Mottram in longdendale ar 6 Mai 1849[2].

Cafodd ei addysgu mewn ysgol leol yn Dunkenfield gan ymadael a'r ysgol yn ieuanc er mwyn cynorthwyo ym musnes ei dad[3]. Bu ei frawd, Alfred, yn AS etholaeth Stalybridge rhwng 1880 a 1885 ac yn AS Huddersfield o 1886 hyd ei farwolaeth ym 1893.

Priododd Edith, merch Hugh Mason AS ym 1883 bu iddynt fab a merch.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd tad a thaid Summers yn wneuthurwyr clocsiau; math o esgidiau gyda gwadnau pren a chorff o ledr wedi ei holio i'r darn pren. Roedd angen nifer fawr o hoelion i wneud clocsen. Wrth ymweld â'r Arddangosfa Fawr yn y Palas Grisial, Llundain ym 1851 gwelodd John, tad James, peiriant i wneud hoelion. O weld y fantais o gynhyrchu hoelion ar gyfer ei glocsiau yn hytrach na'u prynu penderfynodd caffael ar un o'r peiriannau. Agorodd ffatri gwneud hoelion yn Stalybridge, Swydd Gaer. Ym 1860 aeth cam ym mhellach, trwy gynhyrchu'r dur i wneud yr hoelion[5]

Wedi marwolaeth eu tad ym 1876, daeth y busnes o dan reolaeth James a'i brodyr, gyda James yn derbyn rôl cadeirydd y cwmni[6]. Erbyn diwedd y 19 ganrif roedd y busnes cynhyrchu hoelion a dur wedi tyfu a doedd dim lle i ehangu bellach yn ardal Stalybridge. Prynodd y brodyr yr hawl i adfer corsydd ar lannau'r Afon Dyfrdwy ac ym 1896 agorwyd Gwaith Dur Pont Penarlâg a thyfodd, yn y pendraw i ddod yn Waith Dur Shotton, un o gynhyrchwyr dur mwa'r byd ar ei hanterth.

Gyrfa gyhoeddus[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhwng 1878 a 1881 bu Summers yn aelod o gyngor tref Stalybridge. Bu hefyd yn ymgyrchu dros sicrhau bod addysg dechnegol ar gael yn y dref yn hytrach nag addysg academaidd yn unig. Pan adeiladwyd ysgol dechnolegol o ganlyniad i'w ymdrechion rhoddodd rhodd o £300 i brynu offer i greu labordy ffiseg yno.

Wrth i'r gweithfaoedd ehangu ym Mhenarlâg, symudodd pencadlys cwmni Summers & feibion yno hefyd ac fe ymgartrefodd James a'i deulu yn Yr Orsedd. Fe ddechreuodd chware ran ym mywyd cyhoeddus ei gartref newydd.

Ym 1904 fe'i hetholwyd yn gynghorydd Rhyddfrydol dros ward Y Fferi Isaf ar Gyngor Sir y Fflint[7], gan wasanaethu fel cynghorydd hyd ei farwolaeth ym 1913. Fe fu yn gadeirydd y cyngor am chwe mlynedd (1904-1910[8])ac yn aelod o bwyllgor addysg y sir.

Gwasanaethodd fel ynad heddwch ar feinciau Sir Gaerhirfryn, Sir y Fflint a Sir Ddinbych.

Ym 1908 rhoddodd Howell Idris AS Rhyddfrydol Bwrdeistrefi'r Fflint gwybod bod o ddim am ymladd yr etholiad nesaf[9]. Dewiswyd Summers fel ymgeisydd yn ei le. Cynhaliwyd yr etholiad ym mis Ionawr 1910 a llwyddodd i gadw'r sedd i'w blaid gyda chynnydd yn y mwyafrif. Cynhaliwyd ail etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr 1910 a llwyddodd i gadw'r sedd.

Er ei fod yn ŵr o Loegr yn wreiddiol fe fu Summers yn ochri gyda chenedlaetholwyr Cymreig ei blaid ar nifer o bynciau'r dydd megis datgysylltu'r eglwys, cau'r tafarnau ar y Sul, rhyddid addysg grefyddol, creu sefydliadau Cymreig megis y Llyfrgell Genedlaethol ac ymreolaeth (datganoli) i Gymru.

Torrwyd ei wasanaeth fel Aelod Seneddol yn fyr, trwy ei farw ychydig yn llai na thair blwyddyn ar ôl ei ethol am y tro cyntaf.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn Llundain yn 63 mlwydd oed a chludwyd ei weddillion i'w claddu ym mynwent Wrddymbre[10].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Grace's Guide to British Industrial History: James Woolley Summers adalwyd 11 Rhagfyr 2017
  2. Cheshire Archives and Local Studies Diocese of Chester parish registers of baptisms c1538-1910; Mottram in Longdendale Baptisms blwyddyn 1849, Tud 56, Cofnod 442
  3. "MR J W SUMMERS MP - Flintshire Observer Mining Journal and General Advertiser for the Counties of Flint Denbigh". James Davies and Edward Jones Davies. 1913-01-03. Cyrchwyd 2017-12-11.
  4. Who was Who James Woolley Summers adalwyd 11 Rhagfyr 2017
  5. LlGC Cylchgronau Cymru: Flintshire Historical Society publications: Cyfrol 25 td 103-123 THE HAWARDEN BRIDGE, SHOTTON, CHESTER, IRON AND STEEL WORKS OF MESSRS. JOHN SUMMERS AND CO. P. S. RICHARDS, M.A., M.PHIL adalwyd 11 Rhagfyr 2017
  6. Shotton History 11. John Summers & Sons adalwyd 11 Rhagfyr 2017
  7. "FLINTSHIRE - The Welsh Coast Pioneer and Review for North Cambria". W. H. Evans. 1904-03-11. Cyrchwyd 2017-12-11.
  8. "FLINTSHIRE COUNTY COUNCIL - Flintshire Observer Mining Journal and General Advertiser for the Counties of Flint Denbigh". James Davies and Edward Jones Davies. 1910-03-17. Cyrchwyd 2017-12-11.
  9. "MrSummersandtheFlintBoroughs - Rhyl Record and Advertiser". Amos Brothers ; Record and Advertiser Co. 1908-02-01. Cyrchwyd 2017-12-11.
  10. "LATEMRJWSUMMERSMP - Flintshire Observer Mining Journal and General Advertiser for the Counties of Flint Denbigh". James Davies and Edward Jones Davies. 1913-01-10. Cyrchwyd 2017-12-11.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Thomas Howell Williams Idris
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint
19101913
Olynydd:
Thomas Henry Parry