Neidio i'r cynnwys

Jac a Wil

Oddi ar Wicipedia
Jac a Wil
Enghraifft o:deuawd gerddorol, sibling duo Edit this on Wikidata
Label recordioWelsh Teldisc, Recordiau Qualiton, Cwmni Recordiau Sain Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1957 Edit this on Wikidata
Dod i ben1970s Edit this on Wikidata
GenreEmynau, Cerddoriaeth Gymraeg, canu gwerin Edit this on Wikidata
Yn cynnwysJac Davies, Wil Davies Edit this on Wikidata

Roedd Jac a Wil yn ddeuawd a oedd ymhlith artistiaid mwya poblogaidd Cymru yn yr 1950au a'r 1960au.

Bu'r ddau frawd o Gefneithin oedd Jac Davies (John Wesle Davies 1917 - 5 Chwefror 2008) a Wil Davies (1915 - 11 Medi 1987 yn gweithio dan ddaear yn y pwll glo. Buont yn diddanu torfeydd yng Nghymru o'r 1950au ymlaen yn canu clasuron fel "Adref Rwy'n Dod", "Pwy fydd yma mhen Can Mlynedd" a "Border Mam". Bu iddynt berfformio ar hyd neuaddau cyngherdd ac eisteddfodau Cymru a'r Albert Hall yn Llundain.[1] Urddwyd Jac i'r Orsedd yn 1991 dan yr enw 'Jac o Jac a Wil'.[2]

Personol

[golygu | golygu cod]
Hen garreg filltir ar Heol Blaenhirwaun, i'r gorllewin o Gefneithin yn nodi ei lleoliad

Dau frawd oedd Jac a Wil. Yn rhan o deulu o naw o blant, chwech o frodyr a thair chwaer – Evelyn, Mary, Pat, Allenby, Tom, Wil, Corris, Cadfan a Jac. Plant i Mark a Catherine Davies, fferm 'Waunwen' ger pentref Cefneithin, Cross Hands, fferm fechan tua ugain erw oedd Waunwen. Glöwr oedd tad y ddau.

Ganwyd Wil yn 1915 a John Wesley Davies (Jac) yn 1917. Priododd Wil â Lena Hughes, a priododd Jac ag Ethel Morgan.[2]

Cefndir Cerddorol

[golygu | golygu cod]

Byddai’r teulu’n mynd i gapel Tabernacl yng Nghefneithin. Yno y byddai’r teulu yn addoli a chanu ers yn ifanc, ac yn deulu cerddorol eu hunain. Bu iddynt ffurfio côr i’r teulu berfformio mewn digwyddiadau lleol, gyda’r enw Côr Yr Aelwyd. Erbyn eu harddegau, roedd Wil a Jac yn canu gyda Chôr Meibion Y Tymbl. Cyfeilydd y côr oedd Tom Hughes, a fyddai’n gymaint o ddylanwad ar yrfa gerddorol Jac a Wil.

Bu Jac a Wil yn aelodau grwpiau a chorau fel y Tumble Trobadours yn 1947 a Chôr Meibion Mynydd Mawr, yn ogystal a pherfformio fel deuawd.[2] Bu Jac hefyd yn aelod o Gôr Mynydd Mawr, Côr Meibion De Cymru, Cantorion Y Rhyd a’r Parti Bach.[2]

Tafarn y Cennen Arms, ym mhentref Trapp ger Llandeilo lle 'darganfyddwyd' y ddau frawd, Jac a Wil, yn canu gan ddau frawd arall, Alun ac Aneirin Talfan Davies yn 1957

Cafodd y ddeuawd eu darganfod yn canu yn nhafarn y Cennen Arms, Trapp, ger Llandeilo gan y brodyr Alun ac Aneirin Talfan Davies yn 1957,[2] cynhyrchwyr cynnar y byd adloniant a theledu. Gwerthwyd dros 100,00 o'u recordiau dros yr hanner can mlynedd y buont yn diddanu.

Hyd ddiwedd ei oes, roedd Jac Davies yn wyneb adnabyddus ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn heini ei gorff a'i goesau'n destun siarad gan y byddai bob amser yn gwisgo trowsus byr!

Bu farw Wil Davies o glefyd y llwch ar ddiwedd y 1980au, ond dathlodd ei frawd, Jac Davies ei ben blwydd yn 90 oed yn Ebrill 2007.

Ar achlysur y pen blwydd hwn, bu nifer o artistiaid amlyca' Cymru yn talu teyrnged i'r ddau frawd mewn rhaglen arbennig o Wedi 7 ar S4C. Ymhlith y cantorion roedd Bryn Terfel yn canu detholiad o hoff ganeuon Jac. Trefnodd ei deulu a ffrindiau barti arbennig iddo yng ngwersty'r Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin.

Bu farw Jac Davies yn Chwefror 2008.

Darlledwyd rhaglen yn olrhain hanes Jac a Wil Davies ar BBC Radio Cymru, ddydd Sul, 10 Chwefror 2008 [3] ac ar 4 Ionawr 2009 hefyd.[4]

Disgograffi

[golygu | golygu cod]

Roedd allbwn Jac a Wil dros gyfnod o 20 mlynedd yn fawr iawn gan sefydlu eu hunain fel un o brif berfformwyr Cymraeg yr 1950au a 60au.[1][2]

Recordiau Sengl ac EP

[golygu | golygu cod]
  • Arfer Mam / O Dwed erth Mam Sengl 10", 78rpm, Recordiau Qualiton GM.2239 1958 (fersiwn GM.2239 yn gambrintiad o'r un sengl)
  • Jac a Wil Sing EP 7", EP Welsh Teldisc TEP 824 1963 2 fersiwn: un canol caled; un canol push-out
Caneuon: Hen Feibl fy Mamgu; O Fewn Ychydig; Yr Eneth gadd ei Gwrthod; O Na Bawn ni fel Ef
  • The Songs Of Jac A Wil EP 7" Welsh Teldisc TEP 821 1963; 2 fersiwn, un testun brown, un testun ddu
Caneuon: Mae D'Eisiau Di Bob Awr; Mi Glwaf Dyner Lais; Y Nefol Wlad; Cof am y Cyfiawn Iesu
Caneuon: Adref rwyf yn Dod; Mae Popeth yn Dda; Yr Arw Groes; Diolch i Ti

" Jac a Wil Sing Familiar Songs EP 7", Welsh Teldisc TEP 846 1964

Caneuon: Dyma Gariad fel y Moroedd; Arfer Mam; Calon Lan; Dring i Fynnu Yma
  • Star Songs Of Jac A Wil Welsh Teldisc TEP 835 1964 4 fersiwn print wahanol, yr un côd
Caneuon: O Dwed Wrth Mam; Gweddi Mam; Pwy Fydd yma mewn Can Mlynedd; Ble mae fy Machgen Hoff?
Caneuon: Tell Mother I'll be There; Nailed to the Cross; The Old Rugged Cross; He Died of a Broken Heart
Caneuon: Rwyn Canu fel cana'r Aderyn; Border Bach; Hoff yw'r Iesu; Galwad Iesu
Caneuon: Stori'r Groes; Iesu Cofia'r Plant; Ar Wely Gwellt; Dowch at y Ceidwad
  • Yn Canu Carolau EP 7" Welsh Teldisc TEP 844 1964 2 fersiwn gyda dau glawr gwahanol ond yr un caneuon
Caneuon: O Deuwch, Ffyddloniad; O Deued Pob Cristion; Sanctaidd Nos; Daith Iesu o'i Gariad
Caneuon: Clywch lu'r Nef; Noel; Y Bore Hwn; Y Preseb
  • Special Requests EP 7" Welsh Teldisc TEP 852 1965 2 fersiwn (yr un caneuon gan dau wasg argraffu recordiau gwahanol)
Caneuon: Iesu, Iesu rwyt ti'n Ddigon; Cyrif Y Bendithion; Y Ddafad Golledig; Tyn am y Lan
  • Tirion A Thyner/Dyma Feibl Annwyl Iesu EP 7" Recordiau Qualiton WSP 5070 1965 2 fersiwn canol caled a chanol push out
Caneuon: Bendigedig Fyddo'r Jesu; Dwed Cawn Ni Gwrdd; Wrth Y Groes; Dal Wrth Y Groes
Caneuon: Shani; Bywyd Diflino; Anti Lisa; Y Llais Yn Hen Gor Bach Y Fro
  • Pwyso Ar Ei Fraich/Hapus Awr EP 7" Recordiau Qualiton WSP 5069, Dim manylion blwyddyn cyhoeddi. 3 fersiwn gwasgiad

Recordiau Albwm ac Amlgyfrannog

[golygu | golygu cod]
Cyhoeddwyd llyfr 'Byd o Gân: Atgofion Melys Jac Davies' yn 2008
  • Caneuon Gorau Jac A Wil: Cyfrol 1 Casét C557G hefyd LP Mono SAIN 1057H Recordiau Sain 1976

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Jac a Wil". Discogs. Cyrchwyd 10 Ebrill 2024.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 "Jac a Wil". Y Blog Recordiau Cymraeg. 15 Ebrill 2021.
  3. "Jac a Wil". BBC Cymru Fyw. 2008. Cyrchwyd 10 Ebrill 2024.
  4. "Jac a Wil". BBC Radio Cymru. Cyrchwyd 11 Ebrill 2024.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato