Iwan Rheon
Iwan Rheon | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mai 1985 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr, cyfansoddwr, gitarydd, canwr-gyfansoddwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Arddull | indie folk |
Math o lais | bariton |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier am y Perfformioad Wrth-Gefn Gorau mewn miwsical |
Gwefan | http://iwanrheon.com/ |
Actor ffilm a theledu, canwr a chyfansoddwr o Gymro yw Iwan Rheon (ganed 13 Mai 1985), sydd wedi ennill gwobr Olivier, a graddio o London Academy of Music and Dramatic Art (LAMDA). Mae e'n un o brif actorion y gyfres Game of Thrones.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed ef yng Nghaerfyrddin yn fab i Einir a Rheon Tomos ac mae ganddo frawd hŷn, sef Aled. Symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd yn bump oed a mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf lle gymerodd rhan mewn cynyrchiadau drama'r ysgol, a chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Dechreuodd actio o ddifrif pan oedd yn 17 oed, gan fynd i astudio yn LAMDA.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Actio
[golygu | golygu cod]Ymunodd Rheon â chast y ddrama sebon Gymraeg, Pobol y Cwm, pan oedd yn 17 oed, gan chwarae rhan Macsen White, ond gadawodd y rhaglen yn ddiweddarach i astudio yn LAMDA. Daeth ei rôl sylweddol gyntaf ar y llwyfan yn Eight Miles High yn 2008 yn y Royal Court Theatre, Lerpwl.
Cafodd ei gastio i chwarae rhan Moritz Steifel yng nghynhyrchiad 2008 y ddrama gerdd roc Spring Awakening yn Llundain, a enillodd wobr Tony. Dechreuodd chwarae'r rôl yn Ionawr 2009 yn Lyric Hammersmith, a parhaodd pan symudwyd y sioe i Theatr Novello, nes i'r sioe ddod i ben ym Mai 2009, pum mis yn gynharach na'r disgwyl. Enwyd ef fel yr Actor Gefnogol Orau mewn Sioe Gerdd ar gyfer gwobrau What's On Stage. Mae hefyd wedi ennill Gwobr Laurence Olivier yr Actor Gefnogol Orau mewn Sioe Gerdd yn 2010.
Yn syth wedi Spring Awakening, cafodd Rheon ei gastio ar gyfer cyfres deledu E4, Misfits, rhaglen a enillodd BAFTA. Disgrifwyd y sioe gan 247 Magazine fel "cymysgedd o Skins a Heroes". Mae'n chwarae cymeriad swil a nerfus Simon Bellamy sy'n ennill y gallu i fod yn anweledig.
Mae hefyd wedi ymddangos fel gwestai ar rhaglen gomedi Simon Amstell, Grandma's House. Ymddangosodd hefyd ym mhenod olaf Secret Diary of a Call Girl yn 2011.
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Mae hefyd yn ysgrifennu a chanu caneuon ers 16 oed. Ef oedd prif lais y grŵp The Convictions, hyd iddo adael y band er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa actio. Rhyddhaodd EP Tongue Tied yn 2010, a recordiwyd yn RAK Studios, Llundain,[2] wedi ei gynhyrchu gan Jonathan Quarmby a Kevin Bacon.[3] Dychwelodd i RAK Studios ym mis Ebrill 2011, er mwyn recordio ei ail EP, Changing Times, wedi ei gynhyrchu unwaith eto gan Quarmby a Bacon, ond y tro hwn gyda 3 cerddor cefndirol. Rhyddhawyd Changing Times ar 10 Hydref 2011.[4]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ffilm
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2011 | Resistance | George | |
Wild Bill | Pill | ||
2012 | Back of Beyond, TheThe Back of Beyond | Petesy | Ffilm fer |
The Rise (a elwid Wasteland yng Ngogledd America) | Dempsey | ||
2013 | Libertador | Daniel O'Leary | |
2015 | Charlotte's Song | Randall | |
2016 | Alien Invasion: S.U.M.1 | S.U.M.1 | |
2017 | Daisy Winters | Doug | |
2018 | Hurricane: 303 Squadron (neu Mission of Honor yn yr UDA) | Jan Zumbach | |
2019 | Berlin, I Love You | Greg | Pennod: "Embassy" |
The Dirt | Mick Mars | ||
Four | Llofrudd | Ffilm byr | |
2020 | The Existential Hotline | Fred | Ffilm byr |
2021 | The Toll (neu Tollbooth yn yr UDA) | Dom | |
Barbarians | Adam | ||
2022 | The Magic Flute | Papageno |
Teledu
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2002–2004 | Pobol y Cwm | Macsen White | |
2009–2011 | Misfits | Simon Bellamy | 21 pennod |
2010 | Coming Up | Luka | 1 pennod |
2010–2012 | Grandma's House | Ben Theodore | 2 bennod |
2011 | Secret Diary of a Call Girl | Lewis | 1 pennod |
2013–2016 | Game of Thrones | Ramsay Bolton | 20 pennod |
2013–2016 | Vicious | Ash Weston | 14 pennod |
2014 | Our Girl | Dylan "Smurf" Smith | 5 pennod |
2015 | Residue | Jonas Flak | 3 pennod |
2016 | The Green Hollow | Sam Knight | |
2017 | Urban Myths | Adolf Hitler | 1 pennod |
Riviera | Adam Clios | 10 pennod | |
Inhumans | Maximus | 8 pennod | |
Family Guy | George Harrison (llais), John Lennon (llais) | Pennod: "Petey IV" | |
2019 | PTSD: The War in My Head | Adroddwr | |
2020 | A Special School | Adroddwr | |
The Snow Spider | Llais Gwydion | ||
2021 | American Gods | Liam Doyle | |
Y Tywysog | Y Tywysog Wiliam (llais) | ||
A Christmas Number One | Blake Cutter | ||
2022 | Y Golau | Joe Pritchard |
Gemau fideo
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2014–2015 | Game of Thrones | Ramsay Snow | Llais a delwedd |
Llwyfan
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2008 | Eight Miles High | Al | Royal Court Theatre |
2009 | Spring Awakening | Moritz Stiefel | Lyric Hammersmith |
2010 | The Devil Inside Him | Huw Prosser | National Theatre Wales |
2011 | Remembrance Day | Lyosha | Royal Court Theatre |
Radio
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2013 | Darkside | The Boy | Llais |
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]- 2010: Tongue Tied EP
- 2011: Changing Times EP
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ben Bryant (11 Mai 2010). Iwan Rheon Interview. Buzz.
- ↑ Live Music. The Bedford (29 Rhagfyr 2010).
- ↑ BACON & QUARMBY. Alan Cowderoy Management. Adalwyd ar 2 Chwefror 2012.
- ↑ Iwan Rheon. The Monto. Adalwyd ar 2 Chwefror 2012.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Iwan Rheon ar wefan Internet Movie Database
- Iwan Rheon Archifwyd 2011-07-24 yn y Peiriant Wayback, London Theatre Database
- Iwan Rheon, BBC Wales
- Iwan Rheon, The Spotlight