Neidio i'r cynnwys

Y Golau

Oddi ar Wicipedia
Y Golau
Adnabuwyd hefyd fel The Light In The Hall
Genre Drama
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Saesneg
Nifer cyfresi 2
Nifer penodau 12 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 60 munud, yn cynnwys hysbysebion (S4C)
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C, Channel 4
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Darllediad gwreiddiol 15 Mai 2022

Rhaglen ddrama seicolegol yw Y Golau. Wedi ei ffilmio yn Gymraeg a Saesneg, darlledir y fersiwn Saesneg ar Channel 4 o dan y teitl The Light In The Hall.

Crëwyd y gyfres a lluniwyd y stori gan Regina Moriarty. Dangoswyd y gyfres ar S4C yn 2022 ac ail gyfres gyda'r teitl Y Golau: Dwr yn 2025.

Cyfres 1 (2022)

[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfres wedi'i chreu gan Regina Moriarty (Murdered By My Boyfriend) a'i hysgrifennu gan Regina gydag Anwen Huws a Siân Naomi. Cafodd ei chyfarwyddo gan Andy Newbery (Un Bore Mercher) a Chris Forster (Craith).

Wedi ei ffilmio yn y Gymraeg a'r Saesneg, mae'r gyfres wedi cael ei chynhyrchu ar y cyd gan S4C, Channel 4, cynhyrchwyr annibynnol Triongl a Duchess Street Productions ar y cyd ag APC Studios a chyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy Cymru Creadigol.

Cafodd y gyfres gyntaf ei ffilmio mewn lleoliadau yng Ngorllewin Cymru gan gynnwys Llandeilo, Llanymddyfri a Chaerfyrddin. Dyma'r tro cyntaf i Joanna Scanlan actio yn yr iaith Gymraeg.[1]

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Dyw Sharon Roberts byth wedi dod dros marwolaeth ei merch Ela. Cafodd Joe Pritchard - garddwr tawel, diymhongar ei arestio am lofruddiaeth Ela ar ôl i'w DNA gael ei ddarganfod yn ei garafán.

Cyfaddefodd Joe iddo ladd Efa, ond roedd yn gwrthod neu'n methu â dweud pam na beth wnaeth e â'i chorff.

Roedd y newyddiadurwraig Cat Donato, yn wreiddiol o'r un dref, erioed wedi cymryd diddordeb yn llofruddiaeth Ela Roberts. Roedd Ela wedi bod yn un o'i ffrindiau, ond cyn ei llofruddio roedd Ela wedi ei diarddel oherwydd hen ffrae wirion rhwng plant yn eu harddegau, ffaith roedd Cat wedi gwneud y gorau i'w hanghofio.

Mae'r newyddion am wrandawiad parôl Joe a meddwl y gallai gael ei rhyddhau yn gorfodi'r ddwy wraig i wynebu'r gorffennol a'u rhan yn nyddiau olaf Ela.

Gyda chynifer o gwestiynau'n dal heb eu hateb, gallai gweld Joe yn dychwelyd i'r gymuned fod yn ffordd i ddod i waelod dirgelwch unwaith ac am byth. Ond os mai Joe wnaeth ladd Efa, pam, a ble mae ei chorff?[2]

Cymeriadau a chast

[golygu | golygu cod]

Penodau

[golygu | golygu cod]
# Teitl Cyfarwyddwr Awduron Darlledwyd (S4C) Gwylwyr (S4C)[3]
1"Pennod 1"Andy NewberyRegina Moriarty (addasiad Bethan Jenkins)15 Mai 2022 (2022-05-15)70,000
Wedi llofruddiaeth Ela Roberts yn 2002, mae Joe Pritchard wedi treulio 18 mlynedd yn y carchar ond heb ddatgelu lle mae'r corff. Pan dorra'r newyddion bod Joe ar fin cael ei ryddhau o'r carchar er mawr ofid i Sharon, mam Ela, mae'r newyddiadurwr Cat Donato yn penderfynu dychwelyd i Lanemlyn i chwilio am atebion ac i ddarganfod y gwir. Ond a fydd croeso cynnes iddi yn ôl yn y dre lle'i magwyd' Mae Sharon hefyd yn benderfynol o gael atebion - a does dim ots gyda hi sut mae hi'n eu cael nhw.
2"Pennod 2"Andy NewberyRegina Moriarty (addasiad Bethan Jenkins)22 Mai 2022 (2022-05-22)52,000
Oes gan Joe unrhyw atebion i Sharon' Oes rhywun all ei berswadio i ddatgelu beth ddigwyddodd y noson honno' Mae Cat yn parhau gyda'i hymholiadau sy'n ei gwneud hi'n fwy amhoblogaidd gyda phob cwestiwn. Wrth i'r newyddion am Joe Pritchard yn cael ei ryddhau ledaenu trwy Lanemlyn, mae Sharon yn fwy penderfyndol nag erioed o gael atebion - er gwaetha rhybuddion yr heddlu. Yn y cyfamser, mae Joe yn trio'i orau glas i ddygymod â bywyd tu allan i'r carchar a symud ymlaen o'i orffennol.
3"Pennod 3"Andy NewberyAnwen Huws29 Mai 2022 (2022-05-29)55,000
Mae Dai yn parhau i gefnogi Sharon trwy bopeth, tra bod tensiynau'n codi rhyngddi hi a Gafyn. Sut fydd Sali'n ymateb pan mae hi'n darganfod cyfrinach Greta' Mae Cat a Caryl yn dal lan eto ac mae'r hyn sydd gan Caryl i ddweud yn gwneud i Cat ail-ystyried y gorffennol. Beth fydd ymateb Joe i fygythiadau cyson Sharon?
4"Pennod 4"Chris ForsterSian Naiomi5 Mehefin 2022 (2022-06-05)51,000
Mae Sharon ar binnau ar ôl ymweliad Joe - a fydd hyn y ddigon iddi rhoi'r gorau i'r bygythiadau' Daw DCI Parry i ymweld â Cat a'i rhybuddio i roi'r gorau i chwilota am wybodaeth. Mae'r hyn mae'n ei ddweud wrthi'n ei gwneud hi'n fwy penderfynol fyth o ddod o hyd i'r gwir. Pan aiff pethau o ddrwg i waeth i Sharon, daw help o gyfeiriad annisgwyl.
5"Pennod 5"Chris ForsterAnwen Huws12 Mehefin 2022 (2022-06-12)42,000
Mae'n edrych fel bod pethau'n mynd o ddrwg i waeth i Sharon ac i Joe. Tra bod Gafyn, Greta a Dai yn cefnogi Sharon, mae Shelley a Cat yn gwneud popeth gallan nhw i helpu Joe i gofio digwyddiadau'r noson dyngedfennol honno. Wrth i Sharon gael ei rhyddhau o'r ysbyty, mae darn pwysig o dystiolaeth yn dod i'r golwg...beth bydd hi'n penderfynu gwneud? Mynd at yr heddlu neu dibynnu ar Cat i roi'r jig-so at ei gilydd? Mae digwyddiad brawychus yn achos siarad a gofid yn y gymuned...
6"Pennod 6"Chris ForsterRegina Moriarty (addasiad Bethan Jenkins)19 Mehefin 2022 (2022-06-19)35,000
Mae Cat a Joe yn dychwelyd i'r goedwig i weld os all Joe gofio beth ddigwyddodd. Wrth i Joe fentro ar siwrne sy'n ei gythruddo a'i aflonyddu, a fydd unrhywbeth yn ei atgoffa pwy oedd yn y goedwig ar y diwrnod hwnnw a beth ddigwyddodd go iawn/ A fydd Sharon yn cael atebion unwaith ac am byth er mwyn sicrhau bod Ela yn cyrraedd adre'n saff?

Cyfres 2 (2025)

[golygu | golygu cod]

Cynhyrchwyd ail gyfres o dan yr is-deitl 'Dŵr' a ddarlledwyd ar S4C yn dechrau ar 14 Medi 2025. Mae Siân Reese-Williams, Mark Lewis Jones a Nia Roberts yn serennu.[4]

Darlledir ar y sianel Pickx yng Ngwlad Belg.[5]

Cymeriadau a chast

[golygu | golygu cod]

Penodau

[golygu | golygu cod]
# Teitl Cyfarwyddwr Awduron Darlledwyd (S4C) Gwylwyr (S4C)[3]
1"Pennod 1"Rhys CarterRegina Moriarty14 Medi 2025 (2025-09-14)I'w gyhoeddi
1995. Bom. Marwolaeth. Dedfryd. Nawr, wedi 20 mlynedd yn y carchar am lofruddio'i gefnder Llyr, mae Rhys Owen yn ôl yn Llanemlyn - mae'n hŷn, yn dawelach, ond mae'n dal i gadw cyfrinachau. Wrth i brotestiadau newydd ddechrau yn sgil ehangu'r gronfa ddŵr, mae Caryl Huws, newyddiadurwr dan hyfforddiant, yn dechrau gofyn y cwestiynau anghywir.
2"Pennod 2"Rhys CarterRegina Moriarty21 Medi 2025 (2025-09-21)I'w gyhoeddi
Wrth i Caryl gloddio'n ddyfnach, mae hi'n dod ar draws Mabli, actifydd ifanc sy'n protestio yn erbyn ehangu cronfa dd¿r. Mae Eve yn ffeindio ei hun yn cael ei chornelu fwyfwy wrth i ymchwiliad Caryl fynd yn ei flaen. Mae siwrne Rhys am atebion yn ei arwain at wrthdaro gydag Eve, gan sbarduno datgeliadau sy'n bygwth disodli gwirioneddau hirhoedlog y dref.
3"Pennod 3"Erin RichardsAnwen Huws28 Medi 2025 (2025-09-28)I'w gyhoeddi
Mae Caryl yn ceisio dychwelyd y dogfennau sy'n gysylltiedig â'i hymchwiliad i Gillian, gan gyfaddef ei bod hi'n teimlo fel ei bod hi wedi bod yn troelli'r ffeithiau ac nad hi yw'r person cywir i adrodd y stori. Mae Gillian yn ei hannog i beidio â rhoi'r gorau iddi mor hawdd.
4"Pennod 4"Erin RichardsCatherine Linstrum5 Hydref 2025 (2025-10-05)I'w gyhoeddi
Mae Caryl yn mynd ar drywydd y gwir yn ddi-baid, yn holi Eve, Rhys, a Robert, gan geisio datgelu eu rhan yn y digwyddiad trasig. Mae prawf tadolaeth cyfrinachol Mabli yn drysu deinameg y teulu, datguddiad sy'n bygwth datod y teulu. Mae anobaith Eve i amddiffyn ei gorffennol yn arwain at ganlyniadau difrifol.
5"Pennod 5"Siôn IfanAngharad Elen12 Hydref 2025 (2025-10-12)I'w gyhoeddi
Mae'r gymuned yn galaru am un o'i hoelion wyth ac mae Eve yn cael ei phoenydio gan euogrwydd, tra bod Mabli yn lleisio ei beirniadaeth o gronfeydd dŵr trwy adrodd cerdd yn yr angladd. Mae Mabli yn ymuno â Hari i sefyll yn erbyn ehangu'r gronfa ddŵr.
6"Pennod 6"Siôn IfanRegina Moriarty19 Hydref 2025 (2025-10-19)I'w gyhoeddi
Wrth i Caryl ddod at wraidd beth ddigwyddodd noson marwolaeth Llyr, mae Rhys yn herio ei dad, Bryn, i ddatgelu ei gysylltiad â Llyr a'r bomio. Mae Hari yn gwneud y penderfyniad anodd i adael Llanemlyn, er mwyn dechrau o'r newydd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Denu’r sêr at Y Golau ar S4C , Golwg360, 15 Mai 2022.
  2.  Enwau mawr yn serennu yn nrama newydd Y Golau ar S4C. S4C (27 Ebrill 2022).
  3. 3.0 3.1 Ffigyrau gan S4C. Gweler Ffigurau Gwylio S4C.
  4. "Golwg gyntaf ar Y Golau: Dŵr – Rhyddhau delweddau o ail gyfres y ddrama boblogaidd ar S4C | Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2025-09-01.
  5. "Still Waters - VOD Proximus Pickx". www.pickx.be (yn Iseldireg). Cyrchwyd 2026-03-04.