Spring Awakening (sioe gerdd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Spring Awakening
Cerddoriaeth Duncan Sheik
Geiriau Steven Sater
Llyfr Steven Sater
Seiliedig ar Drama Frank Wedekind
Spring Awakening
Cynhyrchiad 2006 Oddi-ar Broadway
2006 Broadway
2008 Taith U.D.A
2009 West End
2009 Vienna
2010 Buenos Aires
2010 Taith U.D.A.
2011 Cyntaf ar Arfordir Gorllewinol U.D.A Coronado, California
2015 Caracas
2015 Adfywiad Broadway
2017 Taith U.D.A.
Gwobrau Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau
Gwobr Tony am y Llyfr Gorau
Gwobr Tony am y Gerddoriaeth Orau
Gwobr Drama Desk am y Sioe Gerdd Orau
Drama Desk - Cerddoriaeth Neilltuol
Drama Desk - Geiriau Neilltuol
Gwobr Outer Critics Circle - Sioe Gerdd Neilltuol
Outer Critics - Cerddoriaeth Neilltuol
Gwobr Theatr Critics Circle am y Sioe Gerdd Orau
Gwobr Olivier am y Sioe Gerdd Newydd Orau
Gwobr Grammy am Albwm y Sioe Gerdd Orau

Sioe gerdd roc yw Spring Awakening, gan Duncan Sheik a Steven Sater.

Mae'r sioe gerdd yn seiliedig ar ddrama Almaeneg Frühlings Erwachen (Deffro'r Gwanwyn) a ysgrifennwyd ym 1891 gan y dramodydd Frank Wedekind. Roedd yn ddrama ddadleuol iawn ar y pryd, a waharddwyd yn yr Almaen am gyfnod oherwydd ei phortread cignoeth o erthylu, cyfunrywioldeb, trais rhywiol, cam-drin plant a hunanladdiad. Mae'r ddrama'n ymwneud â deffroad rhywiol criw o arddegwyr yn yr Almaen ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Agorodd cynhyrchiad cyntaf y sioe gerdd ar Broadway yn 2006. Yn 2009, llwyfannwyd y sioe yn Llundain, lle chwaraewyd dwy o'r prif rannau gan ddau actor o Gymru, Aneurin Barnard ac Iwan Rheon.

Ym mis Mawrth 2011, llwyfannwyd Deffro'r Gwanwyn gan Theatr Genedlaethol Cymru, cyfieithiad Cymraeg o'r sioe gan y dramodydd Dafydd James.