Frühlings Erwachen
Gwedd
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Frank Wedekind |
| Iaith | Almaeneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1891 |
| Dechrau/Sefydlu | 1891 |
| Genre | drama ffuglen |
| Lleoliad y perff. 1af | Deutsches Theater |
| Dyddiad y perff. 1af | 20 Tachwedd 1906 |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |
Drama Almaeneg yw Frühlings Erwachen (Deffro'r Gwanwyn) a ysgrifennwyd ym 1890/1891 gan y dramodydd Frank Wedekind. Ni lwyfanwyd y ddrama nes 1906. Mae'r ddrama'n ymwneud â deffroad rhywiol criw o arddegolion yn yr Almaen ddiwedd y 19g. Roedd yn ddrama ddadleuol iawn ar y pryd, a waharddwyd a sensorwyd am gyfnod oherwydd ei phortread cignoeth o erthylu, cyfunrywioldeb, trais rhywiol, cam-drin plant a hunanladdiad.[1][2][3]
Sioe gerdd
[golygu | golygu cod]Yn 2006 llwyfanwyd y sioe gerdd Spring Awakening sydd wedi ei selio ar y ddrama, ac yn 2011 llwyfanwyd addasiad Cymraeg o'r sioe gerdd dan yr enw Deffro'r Gwanwyn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Spring Awakening Sex Theatre. TheGuardian 2009
- ↑ "Spring Awakening". The Ohio State University Department of Theatre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-10. Cyrchwyd 10 Medi 2012.
- ↑ The Stories Behind Some of History’s Most Controversial Theatrical Productions