Isabel Marshal

Oddi ar Wicipedia
Isabel Marshal
Ganwyd9 Hydref 1200, 1200 Edit this on Wikidata
Castell Penfro Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ionawr 1240, 1240 Edit this on Wikidata
o anhwylder ôl-esgorol Edit this on Wikidata
Berkhamsted Castle Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
TadWilliam Marshal, Iarll 1af Penfro Edit this on Wikidata
MamIsabel de Clare Edit this on Wikidata
PriodRichard, iarll 1af Cernyw, Gilbert de Clare Edit this on Wikidata
PlantHenry of Almain, Amice de Clare, Richard de Clare, William de Clare, Agnes de Clare, Gilbert de Clare, John of Cornwall, Isabella of Cornwall, Nicholas of Cornwall, Isabella of Gloucester and Hertford Edit this on Wikidata

Iarlles Seisnig oedd Isabel Marshal (9 Hydref 120017 Ionawr 1240). Roedd hi'n wraig i Gilbert de Clare, 4ydd Iarll Hertford a 5ed Iarll Caerloyw a Richard, Iarll 1af Cernyw (mab y Brenin John o Loegr). Gyda Gilbert, roedd hi'n hen nain i'r Brenin Robert Bruce o'r Alban.

Teulu[golygu | golygu cod]

Wedi ei geni yng  Nghastell Penfro, Isabel oedd seithfed plentyn, ac  ail, merch William Marshal, Iarll 1af Penfro a Isabel de Clare. Roedd ganddi 4 chwaer a 5 brawd, a oedd yn cynnwys yr 2il, 3ydd, 4ydd, 5ed a'r 6ed  Iarll Penfro; bu pob un o'i frodyr marw heb etifedd gwrywaidd dilys, gan basio'r teitl ymlaen i'r brawd nesaf yn llinell. Wrth i'w brawd olaf i ddal teitl Iarll Penfro marw heb etifedd cyfreithlon cafodd y teitl ei basio i lawr drwy deulu  chwaer iau Isabel, Joan. Priododd ei chwiorydd, Ieirll Norfolk, Surrey, a Derby; Arglwydd y Fenni a'r Arglwydd Swanscombe.

Priodas Richard o Gernyw i Isabella o Gaerloyw

Priodas cyntaf[golygu | golygu cod]

Ar ei 17eg pen-blwydd, priododd Isabel Gilbert de Clare, 4ydd Iarll Hertford a 5ed Iarll Caerloyw, a oedd yn 20 mlynedd yn hŷn na hi, yn Abaty Tewkesbury. Roedd y briodas yn eithriadol hapus, er gwaetha'r gwahaniaeth oedran. Bu iddynt chwech o blant:

  • Agnes de Clare (g. 1218)
  • Amice de Clare (1220-1287), a briododd y 6ed Iarll Dyfnaint
  • Richard de Clare, yn y 6ed Iarll Hertford (1222-1262)
  • Isabel de Clare (2 Tachwedd 122610 Gorffennaf 1264), a phriododd Robert de Brus, 5ed Arglwydd Annandale; trwy hyn daeth Isabel yn hen nain i Robert Bruce
  • William de Clare (1228-1258)
  • Gilbert de Clare (b. 1229), offeiriad

Aeth Gilbert gŵr Isabel i ryfela yn Llydaw ym 1229, ond bu farw ar 25 hydref 1230 ar ei ffordd yn ôl i Penrose, yn y ddugaeth. Cafodd ei gorff ei gludo cartref drwy Plymouth a Cranborne, i Tewkesbury, lle cafodd ei gladdu yn yr abaty.

Ail briodas[golygu | golygu cod]

Roedd Isabel yn wraig weddw ifanc, dim ond 30 mlwydd oed. Roedd hi wedi profi ei gallu i gael plant ac i esgor ar feibion iach; fel y dangoswyd trwy fodolaeth ei chwe phlentyn ifanc, tri ohonynt yn feibion. Dyma, yn fwyaf tebygol, oedd y rheswm dros gynnig o briodas gan Richard, Iarll 1af Cernyw, a phaham bod Isabel yn derbyn ei gynnig, er gwaetha'r ffaith bod ei gŵr wedi bod yn farw am bum mis yn unig. Priododd y ddau ar 30 Mawrth 1231 yn Eglwys Fawley. Roedd Richard, brawd y Brenin Harri, yn anfodlon efo'r briodas gan ei fod wedi bod yn ceisio trefnu priodas fwy manteisiol ar gyfer yr Iarll. Roedd Isabel a Richard yn dod ymlaen yn dda, er bod gan Richard enw drwg am fod yn ferchetwr ac roedd yn hysbys ei fod yn cadw meistresi yn ystod y briodas. Bu iddynt bedwar o blant, ond bu farw tri ohonynt yn y crud.

Marwolaeth a chladdedigaeth[golygu | golygu cod]

Bu Isabel farw o fethiant yr afu, wrth esgor ar ei phlentyn olaf, ar 17 Ionawr 1240, yng Nghastell Berkhamsted. Roedd hi'n 39 mlwydd oed.

Wrth farw gofynodd am gael ei chladdu gyda'i gŵr cyntaf yn Abaty Tewkesbury, ond mynodd Richard ei chladdu yn Abaty Beaulieu gyda ei fab bach yn lle hynny[1]. Fel ystum duwiol, fodd bynnag, anfonodd ei chalon, mewn casgen arian i Tewkesbury.

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. Find a grave - Isabel Marshal adalwyd 20/05/2018

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Cokayne, G.E. (2000). The Complete Peerage of England, Scotland, Ireland, Great Britain and the United Kingdom, Extant, Extinct or Dormant. Alan Sutton. cyfrol II, tudalen 359 & cyfrol III, tudalen 244
  • Lundy, Darryl. "The Dictionary of National Biography". The Peerage.Nodyn:Unreliable source?
  • Denholm-Young, Noel. Richard of Cornwall, 1947