Is-etholiad Gorllewin Casnewydd, 2019

Oddi ar Wicipedia
Is-etholiad Gorllewin Casnewydd 2019
← 2017 4 Ebrill 2019

Etholaeth Gorllewin Casnewydd


Dros dro AS

Paul Flynn



Cynhelir is-etholiad Gorllewin Casnewydd ar gyfer ethol aelod newydd i Senedd y Deyrnas Unedig ar 4 Ebrill 2019, yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur Paul Flynn. Dyma'r trydydd is-etholiad a gynhaliwyd yn ystod 57ain Senedd y DU, a etholwyd yn etholiad cyffredinol 2017 .

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ym mis Hydref 2018 nododd yr AS Seneddol, Paul Flynn, ei fwriad i ymddiswyddo yn y dyfodol agos, ar ôl i'w gyflwr arthritis rhiwmatoid.[1] Ar y pryd, dywedodd Flynn y byddai'n aros am etholiad cyffredinol brys, pe bai hynny'n caniatáu iddo sefyll i lawr heb ysgogi isetholiad, gan nodi'r gost sy'n gysylltiedig â threfnu a chynnal un.[1] Bu farw ar 17 Chwefror 2019, yn dilyn "salwch hir".[2]

Mae Llafur wedi cadw Gorllewin Casnewydd ers 1987, pan enillodd Paul Flynn y sedd oddi wrth y Ceidwadwyr. Mae'r etholaeth yn lled-ymylol, gyda mwyafrif Llafur ddim mwy na 10,000 o bleidleisiau ac eithrio yn ystod yr etholiad ysgubol yn 1997 . [3]

Symudwyd y gwys etholiad yn y Senedd ar 28 Chwefror, gan drefnu is-etholiad ar gyfer 4 Ebrill 2019.[4][5]

Ymgeiswyr ac amserlen[golygu | golygu cod]

Roedd Flynn wedi nodi ei fwriad i sefyll i lawr yn (neu cyn) yr etholiad cyffredinol nesaf a roedd y pleidiau gwleidyddol wedi dechrau dewis ymgeiswyr cyn yr etholiad cyffredinol nesaf yng Ngorllewin Casnewydd. [6]

Dewiswyd y canlynol ar gyfer yr is-etholiad: Jonathan Clark (Plaid Cymru), [7] Matthew Evans (Ceidwadwyr Cymru), Ruth Jones (Llafur Cymru) [5] ac Amelia Womack (Plaid Werdd). [5] Dewisodd UKIP arweinydd Cymru Neil Hamilton.[8] Hefyd bydd ymgeisydd o'r Democratiaid Rhyddfrydol.[5] Mae Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yn bwriadu rhoi ei ymgeisydd Richard Suchorzewski.[9] Cyhoeddodd y Renew Party y byddent yn dewis June Davies. [10]

Dywedodd y Blaid Brexit newydd na fyddai'n sefyll. [5]

Gweinyddir yr etholiad gan Gyngor Dinas Casnewydd, gyda cyhoeddi'r datganiad o bersonau a enwebwyd ar 8 Mawrth 2019. [11]

Plaid Ymgeisydd
Plaid Cymru Jonathan Clark
Renew June Davies
Ceidwadwyr Matthew Evans
UKIP Neil Hamilton
Llafur Ruth Jones
Rhyddfrydwyr Ryan Jones
SDP Ian McLean
For Britain Hugh Nicklin
Plaid Diddymu Cynulliad Cymru Richard Suchorzewski
Democrats and Veterans Philip Taylor
Y Blaid Werdd Amelia Womack

Canlyniad[golygu | golygu cod]

Isetholiad Gorllewin Casnewydd 2019
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Ruth Jones 9,308 39.6 -12.7
Ceidwadwyr Matthew Evans 7,357 31.3 -8.0
Plaid Annibyniaeth y DU Neil Hamilton 2,023 8.6 +6.1
Plaid Cymru Jonathan Clark 1,185 5.0 +2.6
Democratiaid Rhyddfrydol Ryan Jones 1,088 4.6 +2.4
Gwyrdd Amelia Womack 924 3.9 +2.8
Renew June Davies 879 3.7 +3.7
Diddymu Cynulliad Cymru Richard Suchorzewski 205 0.9 +0.9
Democratiaid Cymdeithasol Ian McLean 202 0.9 +0.9
Democratiaid a Chyn-filwyr Philip Taylor 185 0.8 +0.8
For Britain Hugh Nicklin 159 0.7 +0.7
Mwyafrif 1951 8.3
Y nifer a bleidleisiodd 37.1
Llafur yn cadw Gogwydd -2.4

Canlyniad blaenorol[golygu | golygu cod]

Ail-etholwyd Paul Flynn i wythfed tymor yn 2017, gyda mwyafrif uwch o 5,658 (13.0%) dros yr ymgeisydd Ceidwadol.

Etholiad cyffredinol 2017: Etholaeth: Gorllewin Casnewydd[12]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Paul Flynn 22,723 52.3 +11.1 increase
Ceidwadwyr Angela Jones-Evans 17,065 39.3 +6.8 increase
Plaid Annibyniaeth y DU Stan Edwards 1,100 2.5 -12.7 Decrease
Plaid Cymru Morgan Bowler-Brown 1,077 2.5 -1.5 Decrease
Democratiaid Rhyddfrydol Sarah Lockyer 976 2.2 -1.7 Decrease
Gwyrdd Pippa Bartolotti 497 1.1 -2.0 Decrease
Y nifer a bleidleisiodd 43,438
Llafur yn cadw Gogwydd


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Craig, Ian (26 Hydref 2018). "Tributes paid to Paul Flynn following news he is to quit". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
  2. "Tributes to veteran Labour MP Flynn". BBC News (yn Saesneg). 18 Chwefror 2019. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
  3. "Newport West: 2015 Result". ukpollingreport.co.uk. UK Polling Report. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-19. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
  4. "Newport West by-election date announced". BBC News (yn Saesneg). 28 Chwefror 2019. Cyrchwyd 28 Chwefror 2019.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 Craig, Ian (28 Chwefror 2019). "Newport West by-election to be held on April 4 following death of Paul Flynn". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Chwefror 2019.
  6. "Green deputy leader selected as Newport West candidate". greenparty.org.uk. Green Party. 23 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
  7. Craig, Ian (10 Chwefror 2019). "Plaid select their Newport West Parliamentary candidate". South Wales Argus. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
  8. "Neil Hamilton is Ukip's candidate for the Newport West by-election". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-03-04.
  9. Craig, Ian (22 Chwefror 2019). "Party dedicated to abolishing the Welsh Assembly will run in Newport West by-election". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Chwefror 2019.
  10. Staff writer (28 Chwefror 2019). "Renew Party announces candidate for Newport West by-election". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Chwefror 2019.
  11. Is-etholiad Seneddol Gorllewin Casnewydd Cyngor Dinas Casnewydd
  12. Daily Post 10 Mehefin 2017 How Wales Voted - results in detail