John Peter (Ioan Pedr)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ioan Pedr)
John Peter
FfugenwIoan Pedr Edit this on Wikidata
Ganwyd10 Ebrill 1833 Edit this on Wikidata
y Bala Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ionawr 1877 Edit this on Wikidata
y Bala Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg y Bala Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, academydd, ieithydd, bardd, hanesydd, daearegwr, tiwtor, offeiriad Edit this on Wikidata

Ysgolhaig Celtaidd, ieithydd a gweinidog Cymreig oedd John Peter (10 Ebrill, 183317 Ionawr, 1877), a adnabyddir gan amlaf wrth ei enw barddol Ioan Pedr. Yn ŵr hunan-addysgiedig, daeth yn un o arloeswyr ei gyfnod ym maes ieitheg Geltaidd gymharol.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Ioan Pedr yn Y Bala, Meirionnydd, Gwynedd yn 1833. Roedd ei rieni yn dlawd a bu rhaid iddo weithio am gyfnod mewn melin flawd. Aeth ati i ddysgu nifer o ieithoedd ac astudio daeareg yn ei amser ei hun. Oherwydd hynny, cafodd le yng Ngholeg y Bala a daeth yn weinidog gyda'r Annibynwyr.

Fel ysgolhaig roedd ei waith yn arloesol. Dylanwadwyd arno gan waith ysgolheigion mawr yr Almaen yn y cyfnod hwnnw, megis Johann Kaspar Zeuss. Cyhoeddodd ei brif waith, Certain Peculiarities of Celtic Grammar, yn 1867. Cyfranodd nifer sylweddol o erthyglau ar amryw o bynciau yn ymwneud â'r Celtiaid i gylchgronau dysgedig fel y Revue Celtique ac Y Cymmrodor.

Torwyd ei yrfa yn fyr pan fur farw yn 1877, yn 44 oed.

Llyfryddiaeth fer[golygu | golygu cod]

  • Certain Peculiarities of Celtic Grammar (1867)