Ibwproffen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ibwproffen
Ibuprofen-tesco.jpg
Ibuprofen generic o Archfarchnad Tesco
Delwedd:Ibuprofen2.svg, Ibuprofen.svg
Data cyffredinol
Math Cyffur gwrthlid ansteroidol Edit this on Wikidata
Màs 206.131 Uned dalton edit this on wikidata
Fformiwla gemegol C₁₃h₁₈o₂ edit this on wikidata
Enw WHO Ibuprofen edit this on wikidata
Clefydau i'w trin Poen, gorwres, osteoarthritis, crydcymalau gwynegol ieuengaidd, q12957255, sbondylitis asiol, llid, crydcymalau gwynegol, enthesopathy, bwrsitis, tyndra'r mislif, osteoarthritis susceptibility 1, tonsilitis, cur pen eithafol, fibromyalgia, llid y sinysau, cymalwst, nasopharyngitis, gwynegon, gastroenteritis, dolur gwddw, sleep-wake disorder edit this on wikidata
Beichiogrwydd Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Dynodwyr
Freebase /M/014d3g edit this on wikidata
CAS 15687-27-1 edit this on wikidata
PubChem CID 3672 edit this on wikidata
ChEBI 5855 edit this on wikidata
ChEMBL Chembl521 edit this on wikidata
ChemSpider 3544 edit this on wikidata
UNII Wk2xyi10qm edit this on wikidata
ATC C01eb16, g02cc01, m01ae01, m02aa13 edit this on wikidata
KEGG C01588, d00126 edit this on wikidata
Llawlyfr Ligand 2713 edit this on wikidata
Rhif EC 239-784-6 edit this on wikidata
Cofrestr Beilstein 2049713 edit this on wikidata
Drugbank 01050 edit this on wikidata
ECHA 100.036.152 edit this on wikidata
HMDB Hmdb01925 edit this on wikidata
RxNorm CUI 5640 edit this on wikidata
UMLS CUI C0020740 edit this on wikidata
NDF-RT N0000146197 edit this on wikidata
Quora Ibuprofen edit this on wikidata
IEDB Epitope 139973 edit this on wikidata
Arall
Commons page Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae ibwproffen yn feddyginiaeth yn y dosbarth cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd (NSAID) a ddefnyddir i drin poen, twymyn a llid.[1] Mae hyn yn cynnwys cyfnodau misglwyf poenus, y meigryn, y ddannoedd, a'r gwynegon. Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₃H₁₈O₂. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i gau patent ductus arteriosus mewn babanod cynamserol. Gellir ei ddefnyddio trwy'r geg, yn fewnwythiennol ac fel jel argroenol. Fel arfer mae'n dechrau gweithio o fewn awr[2].

Sgil effeithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys llosg cylla a brechod. O'i gymharu â NSAIDau eraill, gallai fod llai o sgil effeithiau megis gwaedu gastro-berfeddol. Mae'n cynyddu'r risg o fethiant y galon, methiant yr arennau, a methiant yr iau. Mewn dosau isel, nid yw'n ymddangos ei fod yn cynyddu'r perygl o gael trawiad ar y galon; fodd bynnag, o gymryd dosau uwch efallai y bydd. Gall Ibuprofen hefyd arwain at waethygu asthma. Er nad yw'n glir os yw'n ddiogel yn ystod beichiogrwydd cynnar, ymddengys ei fod yn niweidiol mewn beichiogrwydd yn ddiweddarach ac felly nid yw'n cael ei argymell. Fel NSAIDau eraill, mae'n gweithio drwy atal cynhyrchu prostaglandinau trwy ostwng gweithgaredd yr ensym cyclooxygenase. Mae Ibuprofen yn gyffur gwrthlidiol gwannach na NSAIDau eraill.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Darganfuwyd Ibuprofen ym 1961 gan Stewart Adams o gwmni Boots, a oedd yn chwilio am foddion ar gyfer ei ben mawr. Cafodd ei farchnata i ddechrau fel Brufen. Mae ar gael o dan nifer o enwau masnachol, gan gynnwys Advil and Motrin. Cafodd ei farchnata gyntaf yn y Deyrnas Unedig ym 1969 ac yn yr Unol Daleithiau ym 1974. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd[3], y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae ar gael fel meddyginiaeth generig. Mae'n feddyginiaeth gellir ei brynu dros y cownter mewn siopau ac archfarchnadoedd heb yr angen am bresgripsiwn na phresenoldeb fferyllydd.

Defnydd meddygol[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • poen
  • gorwres
  • Osteoarthritis
  • crydcymalau gwynegol ieuengaidd
  • sbondylitis asiol
  • Llid
  • crydcymalau gwynegol
  • bwrsitis
  • tyndra'r mislif
  • tonsilitis
  • Cur pen eithafol
  • llid y sinysau
  • Cymalwst
  • Gwynegon
  • Gastroenteritis
  • Dolur gwddw
  • Enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw Ibwproffen, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;


    Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!