Ibn al-Banna al-Marrakushi
Gwedd
Ibn al-Banna al-Marrakushi | |
---|---|
Ganwyd | ابن البناء المراكشي, أحمد بن محمد بن عثمان 29 Rhagfyr 1256 Marrakech |
Bu farw | 31 Gorffennaf 1321 Marrakech |
Galwedigaeth | mathemategydd, seryddwr, astroleg, ysgrifennwr |
Mathemategydd, athronydd a seryddwr Arabaidd oedd Ibn al-Banna al-Marrakushi al-Azdi, a adwaenir hefyd fel Abu'l-Abbas Ahmad ibn Muhammad ibn Uthman al-Azdi (Arabeg: ابن البنّا) (29 Rhagfyr 1256 – c. 1321). Enwir crater Al-Marrakushi ar y Lleuad ar ei ôl.
Ganed Al-Banna yn fab pensaer ym Marrakech, Moroco yn 1256. Ar ôl dysgu elfennau mathemateg a geometreg, aeth ymlaen i gyfieithu Elfennau Euclid i'r Arabeg.[1]
Cyhoeddodd rhwng 51 a 74 traethawd, ar bynciau amrywiol yn cynnwys Algebra, Seryddiaeth, Ieithyddiaeth, Rhethreg, a Rhesymeg. Mae ei weithiau yn cynnwys:
- Talkhis amal al-hisab (Arabeg, تلخيص عمل الحساب ) ('Crynodeb o brosesau rhifyddeg)
- Tanbih al-Albab, ar bynciau amrywiol
- Raf al-Hijab ('Codi'r Gorchudd'), ar fathemateg
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ G. Sarton, Introduction to the History of Science (The Carnegie Institution, Washington, 1927), cyf 2, t. 998.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Ahmed Jabbar a Mohammed Ablagh, Life and Works of Ibn al-Banaa al-Murrakushi (Rabat, 2001). Bywgraffiad.