Neidio i'r cynnwys

Hywel Eryri

Oddi ar Wicipedia
Hywel Eryri
Ganwyd1767 Edit this on Wikidata
Llanfair-Mathafarn-Eithaf Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1841 Edit this on Wikidata
Man preswylAber-erch, Chwilog, Clynnog Fawr, Pen-y-groes, Arfon Uwch Gwyrfai Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, gwëydd Edit this on Wikidata

Gwehydd oedd Hugh Evans (1767-1841[1]) o ran ei alwedigaeth, ond cofir amdano heddiw fel bardd. Ysgrifennai o dan yr enw barddol "Hywel Eryri". Fe'i ganwyd ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Sir Fôn. Symudodd i Abererch, wedyn Chwilog, ac wedyn i Blas Madog ym mhlwy Clynnog Fawr, ac yn olaf i ardal Pen-y-groes. Dichon mai yn Uwchgwyrfai y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.

Bu'n cystadlu mewn eisteddfodau yn weddol ifanc; ysgrifennodd gywydd ar "Gariad" ar gyfer Eisteddfod Bangor, c. 1790, ac un arall yn 1802 ar "Drylliad y llong Minerva, Ionawr 21, 1802". Cyhoeddwyd rhai o'i gerddi ym mlodeugerdd "Corff y Gaingc" (1810). Roedd yn un o'r beirdd a atgyfododd hen fesur yr Englyn cil-dwrn.

Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan Dafydd Ddu Eryri ym Metws Garmon er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "gywion".[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Owen, R. (., (1953). EVANS, HUGH ('Hywel Eryri '; 1767 - 1841?), bardd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 14 Meh 2024, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-EVAN-HUG-1767
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883