Englyn cil-dwrn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mesur caeth yw'r englyn cil-dwrn. Mae'n fesur hen iawn, ond nid yw'n un o'r pedwar mesur ar hugain.

Nodweddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae paladr englyn cil-dwrn yr un fath â phaladr englyn unodl union neu englyn penfyr, sef toddaid byr. Mae gan y drydedd linell unai un, dau neu dri sillaf, ac yn cynnal y brifodl.

Dyma enghraifft o englyn cil-dwrn (mae'r llinell gyntaf un sillaf yn fyr):

Hybarch yw mab y marchog - yn aur
Yn arian golerog
Torchog.

Mae dau sillaf gan y llinell olaf, a'r gair torchog yn cynnal y brifodl og. Nid oes cynghanedd rhwng y llinell olaf a'r toddaid byr.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyfynnir yr enghraifft uchod yng ngwaith Siôn Dafydd Rhys, Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones et Rudimenta, a gyhoeddwyd ym 1592. Ni chafodd yr englyn ei barchu gan Syr John Morris-Jones yn ei lyfr Cerdd Dafod. Dywed:

Dwl yw'r dyn ni wêl mai cellwair ydyw peth fel yna.

Dywed hefyd mai un o'r ofer fesurau ymysg yr oferfeirdd ydyw, gan ddiweddu'n swta fel tor mesur er mwyn peri difyrrwch.

Yn ystod y 19g, defnyddiwyd y mesur yn achlysurol mewn awdlau gan feirdd fel Hywel Eryri, ond gan gynganeddu'r llinell olaf yn ogystal â chynnal y brifodl. Erbyn heddiw, defnyddir y mesur yn achlysurol i gellweirio a gwawdio yn yr ymryson farddol Talwrn y Beirdd, ac fe'i defnyddir weithiau mewn awdlau, er nad ydyw'n fesur mewn cynghanedd gyflawn mewn gwirionedd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)
  • Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd (Argraffiad diwygiedig, Cyhoeddiadau Barddas, 2007)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]