Howel Gwyn

Oddi ar Wicipedia
Howel Gwyn
Ganwyd24 Mehefin 1806 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ionawr 1888 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, tirfeddiannwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Roedd Howel Gwyn (24 Mehefin 180625 Ionawr 1888) o Ddyffryn, Castell-nedd, yn wleidydd Ceidwadol Cymreig, a gynrychiolodd etholaethau Pennrynn hag Aberfala, Cernyw (1847-57) ac Aberhonddu (1866-68) yn Nhŷ'r Cyffredin[1].

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Gwyn yng Nghastell Nedd yn fab i William Gwyn, cyfreithiwr, a Mary Anne (nee Roberts) ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn ysgol gyffredin Mr David Davies, Castell-nedd, Ysgol Ramadeg Abertawe a Choleg y Drindod, Rhydychen lle graddiodd BA ym 1829 ac MA ym 1832.

Wedi graddio aeth ar y daith fawr trwy Ewrop gan ymweld â'r Eidal, gwlad Groeg, Twrci, Hwngari, ynysoedd y Môr Canoldir a Rwsia

Priododd Elen Elizabeth Moore ym 1851, roedd hi yn ferch i John Moore, bonheddwr, o Plymouth.

Bywyd cyhoeddus[golygu | golygu cod]

Daeth Gwyn yn aelod o gyngor tref Castell Nedd ym 1836 gan barhau yn aelod hyd ei farwolaeth ym 1888 a gan wasanaethu fel maer y dref ar ym 1842 & 1844[2].

Bu yn ynad heddwch ar feinciau Sir Forgannwg, Sir Gaerfyrddin a Sir Frycheiniog. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Forgannwg ym 1837, Sir Gaerfyrddin ym 1838 a Sir Frycheiniog ym 1843[3].

Rhoddodd tir ac arian i adeiladu Eglwys St Mathew, Dyffryn Clydach a fu'n cefnogi Eglwys Dewi Sant Castell-nedd. Ym 1887 cyfrannodd tir a £2,000 i adeiladu neuadd gyhoeddus yng Nghastell Nedd a enwyd yn Neuadd Gwyn[4] er anrhydedd iddo. Mae Neuadd Gwyn yn parhau i fod yn ganolfan ddiwylliannol a chymdeithasol pwysig i'r dref[5].

Gyrfa Seneddol[golygu | golygu cod]

Safodd Gwyn yn etholaeth Pennrynn hag Aberfala, yng Nghernyw yn Etholiad Cyffredinol 1847 gan ddod i frig y pôl fel aelod annibynnol / ceidwadol. Llwyddodd i gadw'r sedd yn etholiad cyffredinol 1852. Cyn etholiad cyffredinol 1857 canfu bod ymgeisydd y Blaid Ryddfrydol wedi bod yn canfasio'r etholaeth ac wedi derbyn peth croeso. Penderfynodd i dynnu allan o'r ornest[6].

Rhoddodd ei enw ymlaen fel ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer isetholiad Caerfyrddin 1857[7], ond methodd a chyrraedd y rhestr fer.

Ym mis Hydref 1866 bu isetholiad yn etholaeth Aberhonddu pan ddyrchafwyd yr aelod lleol, John Pratt, Iarll Aberhonddu, i Dŷ'r Arglwyddi fel 3ydd Ardalydd Camden. Safodd Gwyn yn yr isetholiad i ganfod olynydd iddo gan gipio'r sedd i'r Ceidwadwyr. Ail etholwyd Gwyn yn etholiad cyffredinol 1868 ond bu cwyn yn erbyn ei ethol gan y Rhyddfrydwyr gan fod ei gefnogwyr wedi cael eu dal yn ymwneud â llwgrwobrwyo. Clywyd yr achos yn llys y goron Aberhonddu ym Mis Ebrill 1869 a chafwyd dyfarniad yn erbyn Gwyn[8]; cafwyd isetholiad, ond nid oedd Gwyn yn cael ail sefyll.

Safodd yn is etholiad Sir Frycheiniog a alwyd wedi dyrchafu'r AS Ceidwadol Godfrey Morgan i Dŷ'r Arglwyddi. Cipiwyd y sedd i'r Rhyddfrydwyr gan William Fuller-Maitland.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref Y Dyffryn yn 82 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Mathew, Dyffryn Clydach[9]. Mae ei garreg fedd yn adeilad rhestredig[10]. Adeiladwyd ffynnon[11] er cof amdano yn yr Alltwen a cherflyn[12] ohono yng Nghastell-nedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "SKETCH OF MR HOWELGWYN - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1887-04-02. Cyrchwyd 2017-12-07.
  2. Art UK Darlun olew Howel Gwyn, Mayor of Neath (1842 & 1844)
  3. "DEATH OF MR HOWEL GWYN - The Western Mail". Abel Nadin. 1888-01-25. Cyrchwyd 2017-12-07.
  4. "THE GWYN HALL - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1888-12-26. Cyrchwyd 2017-12-07.
  5. Gwefan Neuadd Gwyn Archifwyd 2020-09-24 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 7 rhagfyr 2017
  6. "ELECTIONS - The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette". Henry Webber. 1857-04-04. Cyrchwyd 2017-12-07.
  7. "ETHOLIAD SIR GAERFYRDDIN - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1857-06-13. Cyrchwyd 2017-12-07.
  8. "MR HOWEL GWYN ALLAN O'R SENEDD - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1869-04-17. Cyrchwyd 2017-12-07.
  9. "FUNERAL OF MR HOWEL GWYN - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1888-02-04. Cyrchwyd 2017-12-07.
  10. Howel Gwyn memorial in churchyard of Church of St Matthew A Grade II Listed Building in Dyffryn Clydach, Neath Port Talbot
  11. "MEMORIAL FOUNTAIN AT ALLTWEN - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1895-10-21. Cyrchwyd 2017-12-07.
  12. "THE LATE MR HOWEL GWYN - The Western Mail". Abel Nadin. 1889-09-27. Cyrchwyd 2017-12-07.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Pratt, Iarll Aberhonddu
Aelod Seneddol Aberhonddu
18661869
Olynydd:
Edward, yr Arglwydd Hyde