John Pratt, 3ydd Ardalydd Camden
John Pratt, 3ydd Ardalydd Camden | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mehefin 1840 Llundain |
Bu farw | 4 Mai 1872 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | George Pratt |
Mam | Harriet Murray |
Priod | Clementina Pratt |
Plant | John Pratt, 4th Marquess Camden, unnamed son Pratt, John Pratt, Earl of Brecknock, Clementine Pratt |
Roedd John Charles Pratt, 3ydd Ardalydd, Camden (30 Mehefin 1840 - 4 Mai 1872), yn cael ei adnabod dan y teitlau Is-iarll Bayham ym 1840 ac Iarll Aberhonddu rhwng 1840 a 1866, yn wleidydd Rhyddfrydol Prydeinig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Aberhonddu am gyfnod byr ym 1866
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Camden yn Belgrave Square, Llundain yn fab i George Pratt, 2il Ardalydd Camden, a Harriet, merch y Gwir Parchedig George Murray, Esgob Rochester
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt[1] gan raddio'n MA ym 1860.
Priododd yr Arglwyddes Clementina Augusta ym 1866[2], yr oedd hi yn ferch i George Spencer-Churchill, 6ed Dug Marlborough. Bu iddynt 3 mab (bu farw'r ddau hynaf yn blant) ac un ferch.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd prif ystadau arglwyddi Camden yn Wherwell ger Andover, Hampshire, ac Abaty Bayham ger Lamberhurst. Gan eu bod yn ddisgynyddion i'r Parch Hugh Wilson, Trefeglwys a theulu Jeffreys, Priordy Aberhonddu, roedd gan y teulu ystadau yn Sir Frycheiniog hefyd. Yr ystadau Cymreig oedd yn darparu incwm i ddeiliad is deitl y teulu, Iarll Aberhonddu.
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Etholwyd John Lloyd Vaughan Watkins yn ddiwrthwynebiad fel AS Rhyddfrydol Aberhonddu yn Etholiad cyffredinol 1865 ond bu farw yn gynnar ym 1866. Fe'i holynwyd ar ran y Blaid Ryddfrydol gan Iarll Brycheiniog, eto'n ddiwrthwynebiad, mewn isetholiad a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 1866.
Bu farw 2il Ardalydd Camden ar 6ed Awst 1866 a dyrchafwyd Iarll Brycheiniog i Dŷ'r Arglwyddi wedi llai na chwe mis o wasanaeth fel Aelod seneddol[3]. Bur fu ei wasanaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi hefyd gan iddo farw o fewn pedwar blynedd i'w dyrchafiad.
Wedi dyrchafiad John Pratt i'r Arglwyddi bu ymgais i gael ei frawd, George Pratt, fel olynydd iddo; ond roedd Rhyddfrydwyr anghydffurfiol Aberhonddu yn gwrthwynebu rhoi'r sedd i fonheddwr o Sais[4] ac eglwyswr yn hytrach na Chymro mwy radical. Yn wyneb yr wrthwynebiad penderfynodd George i dynnu allan o'r ras. Roedd John yn mynnu bod ganddo hawl ar yr enwebiad fel prif dirfeddiannwr yr etholaeth a mynnodd bod ei frawd yng nghyfraith, yr Arglwydd Alfred Spencer Churchill, yn sefyll. Collodd y Rhyddfrydwyr y sedd i Howel Gwyn a oedd yn Gymro o'r ardal, er yn Dori[5].
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw o ffit yn Eaton Square, Llundain, yn 31 mlwydd oed. Cafodd ei olynu fel Ardalydd gan John, ei unig fab i'w oroesi, a oedd dim ond 2 fis oed ar y pryd[6].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Y DIWEDDAR IARLL BRYCHEINIOG - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1872-05-18. Cyrchwyd 2018-03-26.
- ↑ "TRECASTLEI - The Brecon Reporter and South Wales General Advertiser". David Williams. 1866-07-21. Cyrchwyd 2018-03-26.
- ↑ "SUDDEN DEATH OF THE MARQUIS CAMDEN KG - The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford". William Henry Clark. 1866-08-11. Cyrchwyd 2018-03-26.
- ↑ "ETHOLIAD ABERHONDDU - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1866-08-24. Cyrchwyd 2018-03-26.
- ↑ "BRECON ELECTION - The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford". William Henry Clark. 1866-09-15. Cyrchwyd 2018-03-26.
- ↑ "DEATH OF THE EARL OF BRECON - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1872-05-07. Cyrchwyd 2018-03-26.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Lloyd Vaughan Watkins |
Aelod Seneddol Aberhonddu Chwef 1866 – Awst 1866 |
Olynydd: Howel Gwyn |