Hippolyte Taine

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hippolyte Taine
Hippolyte taine.jpg
Portread o Hippolyte Taine gan Léon Bonnat.
FfugenwFrédéric-Thomas Graindorge Edit this on Wikidata
GanwydHippolyte Adolphe Taine Edit this on Wikidata
21 Ebrill 1828 Edit this on Wikidata
Vouziers Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 1893 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, hanesydd, ysgrifennwr, hanesydd celf, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
SwyddQ65498963, Q65498963, seat 25 of the Académie française Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Rhydychen
  • École nationale supérieure des Beaux-Arts
  • École spéciale militaire de Saint-Cyr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amQ1820606, Philosophie de l'art Edit this on Wikidata
MudiadPositifiaeth Edit this on Wikidata
PriodThérèse Taine Edit this on Wikidata
Gwobr/auCystadleuthau Cyffredinol, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen, Officier de la Légion d'honneur Edit this on Wikidata
Llofnod
Signature of Hippolyte Taine.jpg

Beirniad llenyddol ac hanesydd Ffrengig oedd Hippolyte-Adolphe Taine (21 Ebrill 18285 Mawrth 1893).

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Hippolyte-Adolphe Taine ar 21 Ebrill 1828 yn Vouziers yn yr Ardennes, Teyrnas Ffrainc, i deulu dosbarth canol. Bu nifer o'i berthnasau yn gweithio i'r gwasanaeth sifil, a chyfreithiwr oedd ei dad. Cafodd ei fagu mewn awyrgylch gwaraidd a'i gyflwyno i'r celfyddydau a byd natur ers ei flynyddoedd cynnar, a derbyniodd ei wersi gan athrawon preifat yn y tŷ. Yn sgil marwolaeth ei dad, pan oedd Hippolyte yn 13 oed, aeth i fyw gyda'i fam ym Mharis a bu'n ddisgybl rhagorol yn y Collège Bourbon. Darllenodd weithiau'r rhesymolwyr ac athronwyr y mudiad Idéologie, a throdd ei gefn ar y ffydd Gristnogol erbyn 15 oed. Yn gynnar felly, datblygodd ei feddylfryd epistemolegol o seilio gwybodaeth ar brofiad y synhwyrau, arsylwad, ac arbrofion rheoledig.[1]

Aeth i'r École Normale Supérieure ym 1848 wedi iddo dderbyn ei licenceès-lettres (rhag-radd), ac yno astudiodd am ei agrégation (uwch-radd) mewn athroniaeth. Tynnwyd ei sylw yn arbennig gan faes metaffiseg, a dan ddylanwad syniadau Hegel a Spinoza ei nod oedd i esbonio'r grymoedd achosol sydd yn gyrru bywyd a'r bydysawd. Byddai ei athrawon, ar y llaw arall, yn cofleidio eclectigiaeth, athrawiaeth ffasiynol yr oes, ac o'r herwydd taliadau Hippolyte Taine, a ystyriwyd yn anuniongred ganddynt, cafodd ei fethu gan banel yr agrégation ym 1851.[1]

Addysgodd Taine am gyfnodau byrion yn Nevers a Poitiers cyn iddo ddychwelyd i Baris ym 1852. Cyflwynodd ddau draethawd estynedig ar gyfer ei ddoethuriaeth mewn llenyddiaeth, un ar bwnc cymeriadau mewn ymgomion Platon a'r llall yn astudiaeth o ffablau Jean de La Fontaine, ac enillodd y radd honno ym Mai 1853.[1]

Ei feirniadaeth ac athroniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu cyfnod mwyaf cynhyrchiol Taine yn cyd-daro â theyrnasiad yr Ymerawdwr Napoléon o 1852 i 1870. O ganlyniad i'r ormes wleidyddol yn Ail Ymerodraeth Ffrainc, yn enwedig yn erbyn deallusion rhyddfrydol, fe roddai'r gorau i geisio am yrfa academaidd, ac enciliodd o fywyd cyhoeddus i ganolbwyntio ar ei amryw astudiaethau. Gweithiodd yn diwtor preifat er mwyn ennill ei damaid, a chyhoeddai ei erthyglau a llyfrau yn rheolaidd.. Parhaodd i fynychu darlithoedd, yn enwedig ar bynciau gwyddonol, a chafodd grap ar ffisioleg a fyddai'n bwysig wrth siapio'i syniadau am seicoleg.

Aeth ar wyliau i fynyddoedd y Pyreneau ym 1854 i wella'i iechyd, ac ysgrifennodd deithlyfr llenyddol o'i daith dan y teitl Voyage aux eaux des Pyrénées (1855). Enillodd Taine wobr o'r Académie française am ei draethawd ar Lifi, Essai sur Tite-Live (1856). Yn ei gyfrol Les Philosophes français du XIX siècle (1857) ceir asesiad beirniadol o syniadau athronwyr Ffrengig y 19g. Cyhoeddodd sawl cyfrol o ysgrifau beirniadol, gan gynnwys Essais de critique et d'histoire (1858), Nouveaux essais (1865), a Derniers essais (1894). Cyhoeddodd adolygiad o'i draethawd doethurol, La Fontaine et ses fables, ym 1861, ac yn yr hwnnw ceir cyflwyniad i gysyniad Taine o estheteg sydd yn nodweddiadol o'i olygwedd wyddonol ar lenyddiaeth.

Gosodir cyfundrefn feirniadol Taine yn gliriaf yn ei gyflwyniad i Histoire de la littérature anglaise (1863). Ei gampwaith arall yw De l'intelligence (1870) sydd yn cydlynu ei syniadau seicolegol ac athronyddol â'i ddulliau beirniadol.

Celf[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1864 penodwyd Taine i olynu'r pensaer Viollet-le-Duc yn swydd athro estheteg ac hanes celf yn yr École des Beaux-Arts ym Mharis, a byddai'n darlithio yno am ugain mlynedd.[1] Cyhoeddwyd ei ddarlithoedd mewn dwy gyfrol, Philosophie de l'art (1865–69), gan gynnwys dadansoddiadau o ddatblygiad y celfyddydau yng Ngwlad Groeg, yr Eidal, a'r Iseldiroedd.

Ei hanesyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgytwyd Taine gan Ryfel Ffrainc a Phrwsia ym 1870. Treuliodd ugain mlynedd olaf ei oes yn ymchwilio i hanes Ffrainc mewn ymgais i egluro trechiad Ffrainc ac helynt Comiwn Paris ym 1871, a chyhoeddwyd ei ddadansoddiadau ar ffurf Les Origines de la France contemporaine (1875–93).[2]

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Hippolyte Taine ar 5 Mawrth 1893 ym Mharis yn 64 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Hippolyte Taine. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Hydref 2021.
  2. (Saesneg) "Hippolyte Adolphe Taine", Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 14 Hydref 2021.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Sholom J. Kahn, Science and Aesthetic Judgement: A Study in Taine's Critical Method (1953).