Léon Bonnat
Léon Bonnat | |
---|---|
![]() Hunanbortread gan Léon Bonnat (1855). | |
Ganwyd | Léon Joseph Florentin Bonnat ![]() 20 Mehefin 1833 ![]() Baiona ![]() |
Bu farw | 8 Medi 1922 ![]() Monchy-Saint-Éloi ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, gwneuthurwr printiau, casglwr celf ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Portrait of Isaac Dignus Fransen van de Putte (1822-1902). Colonial Minister (1863-66, 1872-74), Armand Fallieres, Interior of the Sixtine chapel ![]() |
Arddull | portread (paentiad), peintio lluniau anifeiliaid, peintio genre, peintio hanesyddol, celf tirlun, noethlun, bywyd llonydd, portread ![]() |
Mudiad | academic art ![]() |
Gwobr/au | Prix de Rome, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Uwch Groes ar Orchymyn Sifil Alfonso XII ![]() |
Arlunydd Ffrengig oedd Léon-Joseph-Florentin Bonnat (20 Mehefin 1833 – 8 Medi 1922) sydd yn nodedig am ei bortreadau ac am fod yn athro i nifer o arlunwyr enwog.
Ganed ef yn Bayonne yng ngogledd Gwlad y Basg, yng nghyfnod Brenhiniaeth y Gorffennaf. Astudiodd dan Federico Madrazo ym Madrid a Léon Cogniet ym Mharis. Gwelir dylanwad celf Faróc Sbaenaidd yn ei baentiadau crefyddol cynnar.[1]
Ym 1875 cychwynnodd ar ei gyfres o ryw 200 o bortreadau o Ewropeaid ac Americanwyr amlwg, yn eu plith Adolphe Thiers, Victor Hugo, Hippolyte Taine, Louis Pasteur, a Jean-Auguste-Dominique Ingres. Yn y rhain, gwelir dylanwad Diego Velázquez a'r arlunwyr realaidd Sbaenaidd.
Penodwyd Bonnat yn athro paentio yn yr École des Beaux-Arts, Paris, ym 1888, ac yn gyfarwyddwr yr ysgol honno ym 1905. Ymhlith ei ddisgyblion oedd Thomas Eakins, Gustave Caillebotte, ac Henri de Toulouse-Lautrec. Bu farw ym Monchy-Saint-Éloi, Oise, yn 89 oed.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Léon Bonnat. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Hydref 2021.