Gradd academaidd
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
- Efallai eich bod yn chwilio am gradd (addysg).
Cymhwyster addysg uwch sy'n rhoi teitl o fewn prifysgol yw gradd academaidd a roddir i fyfyriwr sydd naill ai wedi cwblhau cwrs penodedig neu sydd wedi cyflawni ymdrech ysgolheigaidd a ystyrir yn deilwng i ennill y radd honno.
Mathau[golygu | golygu cod y dudalen]
Gradd baglor[golygu | golygu cod y dudalen]

Gelwir gradd baglor hefyd yn radd gyntaf neu'n radd gyffredin, a gan amlaf cymerir tair neu bedair mlynedd o addysg israddedig i'w chwblhau.
Graddau uwch[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhoddir graddau uwch pan gyflawnir cyrsiau uwchraddedig, hynny yw ar ôl ennill gradd baglor. Maent yn cynnwys tystysgrifau uwchraddedig, diplomâu uwchraddedig, graddau meistr, a doethuriaethau.