Hergé
Hergé | |
---|---|
| |
Ffugenw |
Hergé ![]() |
Ganwyd |
Georges Remi ![]() 22 Mai 1907 ![]() Etterbeek, Dinas Brwsel ![]() |
Bu farw |
3 Mawrth 1983, 3 Mai 1983 ![]() Achos: liwcemia ![]() Woluwe-Saint-Lambert - Sint-Lambrechts-Woluwe ![]() |
Man preswyl |
Etterbeek, Etterbeek ![]() |
Dinasyddiaeth |
Gwlad Belg ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
cartwnydd, ysgrifennwr, arlunydd comics, sgriptiwr, darlunydd ![]() |
Swydd |
cyfarwyddwr celf ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am |
Anturiaethau Tintin, Quick & Flupke, Jo, Zette and Jocko ![]() |
Arddull |
ligne claire ![]() |
Prif ddylanwad |
Three Men in a Boat, They and I, Roughing It, George McManus, Georges Colomb, Jean-Jacques Waltz, Alain Saint-Ogan ![]() |
Mudiad |
Q3577783 ![]() |
Priod |
Germaine Kieckens, Fanny Rodwell ![]() |
Gwobr/au |
Swyddog Urdd y Coron, Prix Saint-Michel ![]() |
Gwefan |
http://tintin.com/herge ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Ffugenw cartwnydd Belgiadd oedd Hergé, ei enw llawn oedd Georges Prosper Remi (22 Mai 1907 – 3 Mawrth 1983). Daw ei ffugenw o ynganiad Ffrangeg o flaen lythrennau ei gyfenw a'i enw cyntaf, RG. Mae Hergé'n adnabyddus yn bennaf fel creawdr a darlunydd y cyfres cartŵn stribed Anturiaethau Tintin, ysgrifennodd a darluniodd y gyfres o 1929 hyd ei farwolaeth yn 1983, gan adael ei 24ydd llyfr yn anorffenedig. Mae ei waith yn dal i fod yn ddylanwad cryf ar gomigion, yn arbennig yn Ewrop. Sefydlwyd yn Neuadd Enwogion Llyfrau Comig yn 2003.
Mae priodweddau nodweddiadol straeon Tintin yn cynnwys eu dyneiddiaeth lliwgar, teimlad realistig a gynhyrchwyd drwy ymchwil manwl ac eang, a dull darlunio ligne claire Hergé. Mae darllenwyr hŷn yn mwynhau'r nifer o gyfeiriadau dychanol tuag at hanes a gwleidyddiaeth yr 20g sydd i'w cael yn y gwaith. Ysbrydolwyd Le Lotus bleu, er enghraifft, gan y digwyddiad Mukden a arweiniodd at ryfel Chino-Japaneaidd 1934. Gellir darllen Le Sceptre d'Ottokar yn erbyn cefndir Anschluss Hitler; tra bod albymau mwy diweddar megis L'Affaire Tournesol yn disgrifio'r Rhyfel Oer. Mae Hergé wedi dod yn un o'r Belgiaid enwocaf yn fyd-eang, mae Tintin yn dal i fwynhau llwyddiant rhyngwladol, gyda dau lyfr yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg ym mis Hydref 2008.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd Georges Prosper Remi yn Etterbeek, ger Brwsel, Gwlad Belg yn 1907, yn fab i rieni dosbarth canol, Alexis ac Elisabeth Remi.
Anturiaethau Tintin gan Hergé |
||
---|---|---|
![]() |