Henry Powell Ffoulkes

Oddi ar Wicipedia
Henry Powell Ffoulkes
Ganwyd2 Ionawr 1815 Edit this on Wikidata
Stanstead Bury Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ionawr 1886 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethclerig, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Roedd Henry Powell Ffoulkes (2 Ionawr 181526 Ionawr 1886) yn glerigwr Anglicanaidd Cymreig ac awdur llyfrau am yr Ysgol Sul.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Ffoulkes yn Stanstead Bury, Swydd Hertford yn blentyn i John Powell Ffoulkes a Caroline Mary (née Jocelyn) ei wraig. Roedd y teulu a'i wreiddiau yn Sir Ddinbych. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Caer, Ysgol Bonedd yr Amwythig [2] a Choleg Balliol, Rhydychen, lle graddiodd ym 1837 gyda BA 4ydd dosbarth Literae Humaniores (llenyddiaeth glasurol Lladin a Groeg).[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ym 1839 ordeiniwyd ef yn ddiacon ac offeiriad gan Esgob Llanelwy. Penodwyd ef yn gurad Helygain. Yn 1840 penodwyd ef yn guradur cyflogedig Eglwys Sant Mathew, Bwcle gan dal y swydd honno hyd 1857, pan benodwyd ef gan Esgob Llanelwy yn Rheithor Llandysul, Sir Drefaldwyn.[4] Ym 1861 penododd Esgob Llanelwy ef yn Archddiacon Maldwyn ac yn Ganon Breswyl Llanelwy. Ym 1879 fe'i penodwyd yn rheithor Whittington, Swydd Amwythig, gan barhau yn y swydd honno ynghyd â'r archddiaconiaeth a'r ganonyddiaeth hyd ddiwrnod ei farwolaeth.

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd Jane Margaret, merch Edward Lloyd, Plas Rhagad, Glyndyfrdwy bu iddynt un ferch, Gertrude, a fu farw yn 13 mlwydd oed. Bu Ffoulkes yn un o sylfaenwyr Ysbyty Plant y Rhyl (Ysbyty Brenhinol Alexandra bellach). Ar farwolaeth ei ferch adeiladwyd Ward Gertrude fel atodiad i'r ysbyty er cof amdani gyda Ffoulkes ei hun yn rhoi cymynrodd i gadw gwely Gertrude ar y ward am fyth.[5]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw o beritonitis yn ei gartref swyddogol yn Llanelwy yn 71 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Gadeiriol Llanelwy wedi cynhebrwng a arweiniwyd gan yr Esgob.[6]

*Nodyn am ei enw[golygu | golygu cod]

Foulkes yw'r enw sy'n cael ei ddefnyddio gan y Bywgraffiadur, ond Ffoulkes sy'n cael ei ddefnyddio ym mron pob dogfen arall gan gynnwys H. B. Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, Alumni Oxonienses [3], a chofnodion cyfrifiad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "FOULKES, HENRY POWELL (1815 - 1886), clerigwr ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-24.
  2. Auden, John Ernest (1909). Shrewsbury School register, 1734-1908. Croesoswallt: Woodall. t. 88.
  3. 3.0 3.1 Foster, Joseph. Alumni Oxonienses: The Members of the University of Oxford, 1715-1886 and Alumni Oxonienses: The Members of the University of Oxford, 1500-1714. Oxford: Parker and Co., 1888-1892
  4. "No title - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1886-02-10. Cyrchwyd 2019-11-24.
  5. "History Points - The Royal Alexandra Hospital, Rhyl". historypoints.org. Cyrchwyd 2019-11-24.
  6. "DEATH AND FUNERAL OF ARCHDEACON FFOULKES - The Rhyl Advertiser". Amos Brothers ; W. Pugh and J. L. Rowlands. 1886-02-06. Cyrchwyd 2019-11-24.