Neidio i'r cynnwys

Hanan Issa

Oddi ar Wicipedia
Hanan Issa
Ganwyd1986 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
SwyddBardd Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata

Bardd, gwneuthurwr ffilmiau, sgriptiwr ac artist Cymreig-Iracaidd yw Hanan Issa (ganwyd 1986/1987). Hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru yn 2022.[1] [2][3]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Magwyd Issa yng Nghaerdydd. Ei chyhoeddiad unigol cyntaf oedd My Body Can House Two Hearts, pamffled o farddoniaeth a gyhoeddwyd gan Burning Eye Books yn 2019. Roedd y pamffled yn un o dri i ennill cystadleuaeth pamffled gyntaf Burning Eye.[4] Er ei bod o gefndir Arabaidd Iraci, dydy ddim yn rhugl yn yr iaith Arabeg.[5]

Yn ystod ei gyrfa ysgrifennu, mae Issa hefyd wedi gweithio fel gwneuthurwr ffilmiau a sgriptiwr. Yn 2017, perfformiwyd ei monolog buddugol With Her Back Straight yn Theatr y Bush fel rhan o brosiect Hijabi Monologues.[6] Yn 2020, derbyniodd Issa gomisiwn gan Ffilm Cymru|BBC Wales, a arweiniodd at ysgrifennu a chyfarwyddo’r ffilm fer The Golden Apple (2022).[7][8] Bu'n gweithio ar y gyfres gomedi Channel 4, We Are Lady Parts, gan weithio ochr yn ochr â chrëwr y sioe Nida Manzoor.[9]

Ochr yn ochr â Darren Chetty, Grug Muse ac Iestyn Tyne, gweithredodd Issa fel golygydd cyfrannol i’r flodeugerdd ysgrifau Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales, a gyhoeddwyd gan Repeater Books yn 2022.[10] gydag Issa yn nodi bod “cysylltiadau rhwng un teyrngarwch ac un arall yn llifo mor hawdd i mi ag un corff o ddŵr yn rhedeg i mewn i un arall.”[11] Cyd-olygodd Issa hefyd (gyda Durre Shahwar ac Özgür Uyanık) flodeugerdd y traethawd Just So You Know: Essays of Experience, a gyhoeddwyd gan Parthian Books yn 2020.[12]

Bu i Issa ymddangos ar drafodaeth gyda golygyddion eraill y gyfrol mewn sgwrs ym mis Tachwedd 2022 a drefnwyd dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol lle trafodwyd beth oedd Cymreictod a natur yr hunaniaeth yn ei amrywiaeth.[13]

Ym mis Gorffennaf 2022, penodwyd Issa yn Fardd Cenedlaethol Cymru, gan olynu Ifor ap Glyn.[14] Gwnaed y cyhoeddiad ar 6 Gorffennaf ar raglen gelfyddydol BBC Radio 4, Front Row, gyda'r cyflwynydd Samira Ahmed yn cyfweld ag Issa yn dilyn y cyhoeddiad.[15] Yn dilyn proses ddethol helaeth, penodwyd Issa am gyfnod o dair blynedd, gyda'i chyfnod i bara tan 2025. Hi oedd y bardd Mwslemaidd cyntaf i ddal y teitl.[16]

"Hyrwyddo Cymru a'r iaith Gymraeg"

[golygu | golygu cod]

Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw ym mis Gorffennaf 2022, meddai Issa, "Mae barddoniaeth yn bodoli yn esgyrn y wlad hon. Rydw i eisiau i bobl gydnabod Cymru fel gwlad sy'n llawn dop gyda chreadigrwydd; gwlad beirdd a chantorion sydd â chymaint i'w gynnig i'r celfyddydau. Rydw i eisiau parhau â gwaith gwych fy rhagflaenwyr, gan hyrwyddo Cymru a'r iaith Gymraeg tu hwnt i'n ffiniau. Yn fwy na dim rydw i eisiau ennyn diddordeb ac ysbrydoliaeth y cyhoedd fel eu bod nhw yn gweld eu hunain mewn barddoniaeth Gymreig ac annog synnwyr llawer ehangach o'r hyn mae'n ei olygu i fod yn Gymry."

Ychwanegodd, er nad yw'n siarad Cymraeg, ei bod yn dysgu am y gynghanedd, a'i bod yn awyddus i arbrofi gyda'r gynghanedd mewn barddoniaeth Saesneg.

Dywedodd ei bod yn gobeithio y gallai hynny fod yn "bont rhwng y Gymraeg a'r Saesneg" ac "annog mwy i ymwneud ag ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg".[1]

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]
  • My Body Can House Two Hearts (2019)

Fel golygydd

[golygu | golygu cod]
  • Just So You Know: Essays of Experience (2020)
  • Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (2022)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Dewis Hanan Issa i fod yn Fardd Cenedlaethol Cymru". BBC Cymru Fyw. 6 Gorffennaf 2022.
  2. "Hanan Issa". Llenyddiaeth Cymru. Cyrchwyd 2022-07-12.
  3. "Wales appoints Hanan Issa as its first Muslim national poet". The Guardian (yn Saesneg). 2022-07-07. Cyrchwyd 2022-07-12.
  4. "Winning Debut Pamphlets Launch This October!". Burning Eye Books (yn Saesneg). 2019-09-03. Cyrchwyd 2022-07-12.
  5. "Pum munud gyda Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru". BBC Cymru Fyw. 13 Gorffennaf 2022.
  6. "Stories announced for Hijabi Monologues London". www.bushtheatre.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-07-12.
  7. "Hanan Issa announced as the new National Poet of Wales | AberdareOnline". www.aberdareonline.co.uk. Cyrchwyd 2022-07-13.
  8. "BBC Wales - Ffolio, The Golden Apple". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-07-13.
  9. "Hanan Issa named National Poet of Wales". The Bookseller (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-07-12.
  10. "Roughly the size of Wales: four reflections on Welsh identity in the 21st century". the Guardian (yn Saesneg). 2022-03-01. Cyrchwyd 2022-07-12.
  11. "Review: Welsh (Plural) - Essays on the Future of Wales". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-03-12. Cyrchwyd 2022-07-12.
  12. "Just So You Know | Durre Shahwar and Özgür Uyanık". Wales Arts Review (yn Saesneg). 2020-08-19. Cyrchwyd 2022-07-12.
  13. "Cymreig Lluosog, Welsh Plural". Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 10 Tachwedd 2022.
  14. Review, Wales Arts (2022-07-07). "Hanan Issa announced as National Poet of Wales". Wales Arts Review (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-07-12.
  15. "BBC Radio 4 - Front Row, New national poet of Wales, Lucian Freud show, The Royal Cornwall Museum, The Blue Woman opera". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-07-13.
  16. "Hanan Issa is the first Muslim chosen as national poet of Wales". Arab News (yn Saesneg). 2022-07-08. Cyrchwyd 2022-07-12.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.