Gwilym Ceri Jones

Oddi ar Wicipedia
Gwilym Ceri Jones
Ganwyd26 Mehefin 1897 Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ionawr 1963 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, bardd Edit this on Wikidata

Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bardd oedd Gwilym Ceri Jones (26 Mehefin 18979 Ionawr 1963).

Fe'i ganwyd yn Newgate, plwyf Llangynllo, Ceredigion, yn fab i William ac Ellen Jones. Addysgwyd ef yn ysgol Rhydlewis, ysgol ramadeg Llandysul, a Choleg Diwinyddol Aberystwyth. Ar ôl ei ordeinio yn 1922, roedd yn weinidog yng Nghwm-parc (1922-28), Minffordd (1928-32), Llanwrtyd (1932-36), Port Talbot (1936-47) a Clydach-ar-Dawe (1947-58). Bu farw yn Llansamlet.

Fel bardd, roedd yn arbenigo yn y mesurau caeth. Enillodd gwobrwyon yr Eisteddfod Genedlaethol ar yr englyn a'r rhieingerdd, ac enillodd y gadair ym Mhwllheli, 1955, am ei awdl Gwrtheyrn.

Cyhoeddwyd casgliad o'i farddoniaeth ar ôl ei farw dan y teitl Diliau'r Dolydd (1964).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]