Gwibiwr y llennyrch
| Carterocephalus palaemon | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera |
| Teulu: | Hesperiidae |
| Genws: | Carterocephalus |
| Rhywogaeth: | C. palaemon |
| Enw deuenwol | |
| Carterocephalus palaemon (Pallas, 1771) | |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwibiwr y llennyrch, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwibwyr y llennyrch; yr enw gwyddonol yw Carterocephalus palaemon, a'r enw Saesneg yw Chequered Skipper.[1][2] Ystyr llennyrch yw llawer o lefydd agored mewn coedwig (unigol: "llannerch").
Hyd ei adenydd yw rhwng 29 a 31 mm. Mae i'w ganfod yn yr Eidal, Portiwgal, Iwerddon, Denmarc, Sbaen, UDA, gwledydd Prydain a Gwlad Groeg. Caiff yr wyau eu dodwy yn yr Alban ar Molinia caerulea, yn Lloegr ar y planhigyn Brachypodium sylvaticum ac yn Unol Daleithiau America ar Calamagrostis purpurascens sef ei hoff fwyd. Cânt eu dodwy rhwng Mehefin a Gorffennaf a chymerant 10 diwrnod i ddeor.
Diflannodd o Loegr yn 1976 ond cafwyd ymgais i'w ail gyflwyno yno yn yr 1990au.
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloÿnnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae gwibiwr y llennyrch yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd gloÿnnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Delweddau
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
