Gwennol ddu
| Gwennol ddu Apus apus | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Apodiformes |
| Teulu: | Apodidae |
| Genws: | Apus[*] |
| Rhywogaeth: | Apus apus |
| Enw deuenwol | |
| Apus apus | |
| Dosbarthiad y rhywogaeth | |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gwennol ddu (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: gwenoliaid duon) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Apus apus; yr enw Saesneg arno yw Eurasian swift. Mae'n perthyn i deulu'r Coblynnod (Lladin: Apodidae) sydd yn urdd y Apodiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. apus, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Heblaw wrth y nyth, nid yw'r Wennol Ddu byth yn glanio o'i bodd; yn hytrach mae'n treulio ei holl fywyd yn hedfan. Mauersegler neu "mur-gydiwr" yw'r gair Almaeneg amdani, sy'n adlewyrchu'r ffaith ei bod yn aml yn cydio mewn boncyff coeden gyda'i thraed pitw.
Aderyn mudol ydyw, yn nythu yn Ewrop a rhan helaeth o Asia, ac yn gaeafu yn rhan ddeheuol Affrica. Defnyddir adeiladau ar gyfer nythu fel rheol. Mae'n aderyn gweddol gyffredin mewn cynefinoedd addas yng Nghymru.
Enwau eraill
[golygu | golygu cod]Ceir nifer o hen enwau arni, llawer ohonynt yn ymwneud â chyfriniaeth neu grefydd: coblyn, gwrach yr ellyll, asgell hir, aderyn yr eglwys, aderyn du'r llan, y biwita (the bewitched one), y folwen, sgilpen, marthin du (black bird of St. Martin), y wennol ddu fawr, gwennol y dŵr (ardal Llandysul), gwennol fuan.[3]

Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r gwennol ddu yn perthyn i deulu'r Coblynnod (Lladin: Apodidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Coblyn bach y Caribî | Chaetura martinica | |
| Coblyn coler gwinau | Streptoprocne rutila | |
| Coblyn cynffonwyn | Aeronautes montivagus | |
| Coblyn gyddfwyn | Aeronautes saxatalis | |
| Coblyn palmwydd Affrica | Cypsiurus parvus | |
| Coblyn palmwydd Asia | Cypsiurus balasiensis | |
| Coblyn y Môr Tawel | Apus pacificus | |
| Coblyn y tai | Apus nipalensis | |
| Coblyn yr Andes | Aeronautes andecolus | |
| Gwennol ddu | Apus apus | |
| Gwennol ddu'r Alpau | Tachymarptis melba | |
| Llostfain gyddfwyn | Hirundapus caudacutus | |
| Llostfain Madagasgar | Zoonavena grandidieri | |
| Llostfain Saõ Tomé | Zoonavena thomensis | |
| Llostfain tinwyn | Rhaphidura leucopygialis |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ Gweler Rhestr Enwau Adar gan Dewi Lewis.













