Gwarchodfa Natur Rhydymwyn

Oddi ar Wicipedia
Gwarchodfa Natur Rhydymwyn

Mae Gwarchodfa Natur Rhydymwyn ym mhentref Rhydymwyn, Sir y Fflint. 35 hectar (84 erw) yw maint y safle ac mae'n cynnwys adfeilion Gwaith y Dyffryn, a oedd yn ffatri cynhyrchu arfau cemygol yn ystod r Ail Ryfel Byd ac yma hefyd ymchwiliwyd i ddatblygiad arfau atomig. Mae Afon Alyn yn llifo drwy'r safle. Daeth y safle'n warchodfa natur yn 2004. DEFRA ydy'r perchnogion, ac mae angen caniatâd cyn ymweld â'r safle hyd yn oed heddiw.

Mae dros 1400 o rywogaethau ar y safle, gan gynnwys amrywiaeth o ffwng a phlanhigion, adar megis Cnocell Fraith Fwyaf, Ysgrech y Coed, boncath, Titw'r Wern, Cigfran a Llinos bengoch fechan. Mae 639 math o anifeiliaid di-asgwrn-cefn, 24 o famaliaid, megis mochyn daear, llygoden, dwrgi, ffwlbart ac ystlum, a 5 amffibiad a 3 ymlusgiad.

Rheolir y warchodfa gan Fywyd Gwyllt Gogledd Ddwyrain Cymru[1]. Trefnir cyrsiau am adnabod anifeiliaid di-asgwrn-cefn ar y safle.[2], mae cyrsiau ar greu basgedi, ac mae COFNOD wedi cynnal 'Bioblitz'i weld cymaint o greaduriaid a phosib mewn diwrnod.[3] Mae'r warchodfa'n addas i'r anabl, oherwydd y rhwydwaith o ffyrdd wedi creu i wasanaethu'r hen ffatri.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]