Cnocell fraith fawr
| Cnocell fraith fawr Picoides major | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Piciformes |
| Teulu: | Picidae |
| Genws: | Dendrocopos[*] |
| Rhywogaeth: | Dendrocopos major |
| Enw deuenwol | |
| Dendrocopos major
| |
| Dosbarthiad y rhywogaeth | |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cnocell fraith fawr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cnocellau brith mawr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Picoides major; yr enw Saesneg arno yw Great spotted woodpecker. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. major, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.
Cnocell ganolig o ran maint yw'r Gnocell Fraith Fwyaf, tua 23–26 cm o hyd a 38–44 cm ar draws yr adenydd. Mae'n byw mewn coedwigoedd neu gymysgedd o goed a chaeau. Du a gwyn yw'r rhan fwyaf o'r plu, ond mae gan y ceiliog ddarn coch ar y gwegil tra mae pen yr iar yn ddu a gwyn i gyd. Aderyn ieuanc sydd yn y llun, yn dangos y coch ar dop y ben sy'n nodweddiadol o adar yn eu blwyddyn gyntaf. Gellir gwahaniaethu'r gnocell yma oddi wrth y Gnocell Fraith Leiaf trwy fod gan y Gnocell Fraith Fwyaf goch ar ran gefn y bol, sy'n absennol yn y Gnocell Fraith Leiaf, a'r gwahaniaeth mawr mewn maint.
Yn enwedig yn y gwanwyn, gellir clywed y cnocell yma yn "drwmio", sef curo coeden yn gyflym a'i big i wneud sŵn y gellir ei glywed am gryn bellter. Mae'n byw ar bryfed sydd yn tyllu i mewn i goed fel rheol, ond gall hefyd ddefnyddio ei big nerthol i dorri trwy bren i fwyta cywion adar eraill sy'n nythu mewn tyllau mewn coed.
I nythu, mae'n torri twll hyd at droedfedd o ddyfnder mewn pren marw neu feddal. Y gnocell yma yw'r gnocell fwyaf cyffredin yng Nghymru, ac mae'r niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r cnocell fraith fawr yn perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Cnocell bengoch | Melanerpes erythrocephalus | |
| Cnocell ddu | Dryocopus martius | |
| Cnocell dorgoch | Melanerpes carolinus | |
| Cnocell flaenfelen | Melanerpes flavifrons | |
| Cnocell fraith fwyaf | Dendrocopos major | |
| Cnocell Gila | Melanerpes uropygialis | |
| Cnocell gorun coch | Melanerpes rubricapillus | |
| Cnocell gorunllwyd | Yungipicus canicapillus | |
| Cnocell gudynfelen | Melanerpes cruentatus | |
| Cnocell Lewis | Melanerpes lewis | |
| Cnocell Mace | Dendrocopos macei | |
| Cnocell wen | Melanerpes candidus | |
| Cnocell y mês | Melanerpes formicivorus |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.











