Neidio i'r cynnwys

Cnocell fraith fawr

Oddi ar Wicipedia
Cnocell fraith fawr
Picoides major

, ,

Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Piciformes
Teulu: Picidae
Genws: Dendrocopos[*]
Rhywogaeth: Dendrocopos major
Enw deuenwol
Dendrocopos major



Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cnocell fraith fawr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cnocellau brith mawr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Picoides major; yr enw Saesneg arno yw Great spotted woodpecker. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. major, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.

Cnocell ganolig o ran maint yw'r Gnocell Fraith Fwyaf, tua 23–26 cm o hyd a 38–44 cm ar draws yr adenydd. Mae'n byw mewn coedwigoedd neu gymysgedd o goed a chaeau. Du a gwyn yw'r rhan fwyaf o'r plu, ond mae gan y ceiliog ddarn coch ar y gwegil tra mae pen yr iar yn ddu a gwyn i gyd. Aderyn ieuanc sydd yn y llun, yn dangos y coch ar dop y ben sy'n nodweddiadol o adar yn eu blwyddyn gyntaf. Gellir gwahaniaethu'r gnocell yma oddi wrth y Gnocell Fraith Leiaf trwy fod gan y Gnocell Fraith Fwyaf goch ar ran gefn y bol, sy'n absennol yn y Gnocell Fraith Leiaf, a'r gwahaniaeth mawr mewn maint.

Yn enwedig yn y gwanwyn, gellir clywed y cnocell yma yn "drwmio", sef curo coeden yn gyflym a'i big i wneud sŵn y gellir ei glywed am gryn bellter. Mae'n byw ar bryfed sydd yn tyllu i mewn i goed fel rheol, ond gall hefyd ddefnyddio ei big nerthol i dorri trwy bren i fwyta cywion adar eraill sy'n nythu mewn tyllau mewn coed.

I nythu, mae'n torri twll hyd at droedfedd o ddyfnder mewn pren marw neu feddal. Y gnocell yma yw'r gnocell fwyaf cyffredin yng Nghymru, ac mae'r niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r cnocell fraith fawr yn perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Cnocell Arabia Dendrocoptes dorae
Cnocell farfog Chloropicus namaquus
Cnocell fraith fach Dryobates minor
Cnocell fraith ganolig Dendrocoptes medius
Cnocell fraith Japan Yungipicus kizuki
Cnocell frongoch Dryobates cathpharius
Cnocell gorunfrown Yungipicus moluccensis
Cnocell gorunllwyd Yungipicus canicapillus
Cnocell werdd Ciwba Xiphidiopicus percussus
Corgnocell Temminck Yungipicus temminckii
Corgnocell y Philipinau Yungipicus maculatus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
Safonwyd yr enw Cnocell fraith fawr gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.