Gwaith y Dyffryn, Rhydymwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Gwaith y Dyffryn (Saesneg: Valley Works) ar gyrion pentref Rhydymwyn, Sir y Fflint. Roedd y dyffryn yn rhan o Stad Gwysanau ac yn ardal pyllau plwm yn y 19g, ac wedyn yn ardal amaethyddol. Rhwng 1939 - 1958 storiwyd llawer iawn o nwy mwstard yma, a baratowyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ffatri arfau cemegol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 27 Awst 1939 rhoddodd y Trysorlys sêl eu bendith ar ddatblygiad "Gwaith y Dyffryn", Rhydymwyn, ffatri gyfrinachol a fu'n cynhyrchu arfau cemegol. Dewiswyd Rhydymwyn gan ICI oherwydd presenoldeb rheilffordd a phriffordd mewn ardal weddol diarffordd, digonedd o ddŵr o Afon Alun trwy'r dyffryn[1] - ac yn ddim ond 30 milltir i ffwrdd o brif safle'r cwmni, sef Gwaith Rundle, ar Ynys Wigg, yn Runcorn, Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, lle cynhyrchodd y cwmni nwy mwstard.[2] Defnyddiwyd Runcol, math o nwy mwstard.[3] Adeiladwyd rhwydwaith o dwneli ym 1939 i storio'r nwy mwstard; ystyriwyd fod y safle anhysbys a choediog yn fwy diogel nac yr un yng nghanol ardal ddiwydiannol Runcorn.[4]

Operation 'Tube Alloys'[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwnaethpwyd ymchwil cynnar yn natblygiad arfau atomig ar y safle, gan ddechrau yn 1942, cyn symud y gwaith i Los Alamos, Mecsico Newydd a adnabyddir erbyn hyn fel Prosiect Manhattan. Defnyddiwyd techneg lledaenu nwyol i greu Wraniwm 235 mewn peiriannu a adeiladwyd gan gwmni Metropolitan Vickers ym Mharc Trafford, Manceinion. Parhaodd y gwaith yn Adeilad P6[3] hyd at 1945[2]

Y dyffryn heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn hyn, gwarchodfa natur ydy'r dyffryn. DEFRA ydy'r perchnogion, ac mae angen caniatâd cyn ymweld â'r safle hyd yn oed heddiw.[5] Mae adeiladau'r ffatri'n dal i fodoli, ac mae gan rai graffiti a adawyd gan y gweithwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Sub-Brit
  2. 2.0 2.1 The Valley Site, Rhydymwyn, Flintshire: Historic Environment Management Plan, Peter Bone, Steve Litherland and Kirsty Nichol, Birmingham Archaeology
  3. 3.0 3.1 Rhaglen Deledu 'Secret Wales'
  4. Tudalen hanes Rhydymwyn ar wefan Sub-Brit
  5. Adroddiad diogelwch y safle