Gwalch y pysgod

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gwalch y Pysgod)
Gwalch y pysgod
Pandion haliaetus

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes
Teulu: Pandionidae
Genws: Pandion[*]
Rhywogaeth: Pandion haliaetus
Enw deuenwol
Pandion haliaetus
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn ysglyfaethus yn byw yn bennaf ar bysgod yw Gwalch y pysgod (enw gwyddonol: Pandion haliaetus). Mae ganddo ddosbarthiad eang iawn trwy'r byd, ac yn un o'r ychydig adar sydd i'w cael ar bob cyfandir heblaw yr Antarctig. Mae'n 60 cm mewn hyd a 180 cm o adain i adain. Brown ydy rhan uchaf ei gorff a'r rhan isaf yn wyn; mae ymylon ei lygaid a'i esgyll yn blu du.

Gall blymio i'r dŵr ar gyflymder uchel i ddal ei ysglyfaeth gyda'i grafangau. Mae sbigau bychain ar ei draed sy'n ei gynorthwyo i afael yn y pysgodyn. Yn Ewrop mae Gwalch y pysgod yn aderyn mudol, sy'n treulio'r gaeaf yng ngorllewin Affrica.

Mae'n nythu gerllaw llynnoedd ac afonydd fel rheol, ond ambell dro gerllaw dwr hallt. Ran amlaf mae'r nyth, sy'n gasgliad sylweddol iawn o frigau, mewn coeden, ond gall nythu ar lawr os yw mewn lle diogel, er enghraifft ar ynys fechan ynghanol llyn.

Diflannodd yr aderyn ysglyfaethus hwn o wledydd Prydain yn 1916; cafodd ei ddifa'n llwyr o'r Alban yn nechrau'r 20g gan erledigaeth dyn: saethu a chasglu wyau, ond dychwelodd y gwalch i nythu yno yn y 1950au ac erbyn 2012 roedd yno mwy na 200 o barau.

Yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Hanesyddol[golygu | golygu cod]

A oedd yna weilch y pysgod yng Nghymru cyn i’r par ddechrau nythu ym Morthmadog 5 mlynedd yn ol? Mae yna son am “eryr” yn dal pysgodyn yn stori Culhwch ac Olwen yn y Mabinogi - ond gallasai hwnnw fod yn eryr môr. Y dystiolaeth gryfaf o walch pysgod digamsyniol yw arfbais[1] dinas Abertawe, sydd yn dyddio o’r 13g.[1] Mae enw carfan rygbi’r Gweilch yn atgof o hyn, ond nid yw'n glir ai dyma'r rheswm am yr enw.

Heddiw[golygu | golygu cod]

Fideo dwyieithog o Weilch y pysgod yn Hafren, Canolbarth Cymru yn 2016.
Y Ganolfan Wylio yn Nyffryn Dyfi.

Yn 2004 nythodd yng Nghymru am y tro cyntaf, hyd y gwyddom, a hynny ger Llyn Glaslyn. Yn 2005 magodd pâr gerllaw Porthmadog ddau gyw a sefydlodd yr RSPB ganolfan ymwelwyr gerllaw'r nyth. Daeth tua 50,000 o bobl i'w gweld yn ystod yr haf. Mae'n nhw yn dal yno, a bellach, ceir pâr arall yn nythu yng Nghors Dyfi, ble ceir cuddfan i'w gwylio. Man arall da i'w gwylio rhwng Mawrth a Medi yw Canolfan Ymwelwyr yr RSPB ger Pont Croesor, Porthmadog.

Mae'r adar sydd yng Nghymru yn fudol ac erbyn mis Medi maent yn gadael am wledydd cynhesach Gorllewin Affrica.

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Gwalch pysgod Pandion haliaetus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Pandion haliaetus

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]