Guth ón mbreatain - Llais o Gymru
Mae Guth ón mbreatain - Llais o Gymru yn flodeugerdd o gerddi Cymraeg wedi eu cyfieithu i'r Wyddeleg. Awdur y llyfr oedd Tadhg Ó Donoghue, (1874-1930), bardd ac awdur Gwyddelig. Cyhoeddwyd y llyfr ym 1912 gan wasg M. H. Gill & a Mhac, Baile Átha Cliath (Dulyn).[1]
Yn rhagymadrodd y llyfr mae'r awdur yn nodi bod yr Iaith Wyddelig, trwy ormes, heb ei ddefnyddio lawer fel iaith lenyddol. Er fu'r Gymraeg hefyd dan ormes gan yr un gelyn, mae ganddi draddodiad hir a di-dor fel iaith barddoniaeth a rhyddiaith. Trwy gyfieithu llên Gymraeg i'r Wyddeleg mae'n gobeithio ysbrydoli llenorion Gwyddeleg i weld yr hyn sy'n bosib trwy lenydda mewn iaith fach dan ormes.
Mae'r llyfr yn cynnig cyfieithiadau o waith Dafydd ap Gwilym ond yn dibynnu yn helaeth ar flodeugerdd Caniadau Cymru William Lewis Jones. Ceir gyfieithiadau o gerddi Edward Morris, Huw Morys, Edward Richard, Twm o'r Nant, Cawrdaf, Robert Davies (Bardd Nantglyn), Dafydd Ddu Eryri, John Blackwell (Alun), Ieuan Glan Geirionydd, Eben Fardd, William Williams (Caledfryn), Talhaiarn, Owen Wynne Jones (Glasynys), William Thomas (Islwyn) a Mynyddog.
Mae'r awdur yn diolch i Syr John Morris Jones, T Gwynn Jones, T. J. Williams a Hughes a'i fab am eu cymorth yn y gwaith.
Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i ddarllen yn di dâl ar wefan Internet Archive.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Copi o'r llyfr ar internet Archive adalwyd 7 Mawrth 2020
- ↑ "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2020-03-07.