Caniadau Cymru
Blodeugerdd Gymraeg o gerddi rhydd a gyhoeddwyd ar ddiwedd y 19g yw Caniadau Cymru. Fe'i golygwyd gan William Lewis Jones (1866 - 1922). Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn ddwy gyfrol yn 1897 a chafwyd adargraffiad mewn un gyfrol yn 1907 gan y cyhoeddwyr Jarvis a Foster o Fangor.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Y bwriad wrth gyhoeddi Caniadau Cymru oedd cael fersiwn Cymraeg o'r Golden Treasury of Songs and Lyrics Saesneg gan William Palgrave (1861 a sawl argraffiad ers hynny: un o'r blodeugerddi mwyaf llwyddiannus erioed). Mae'r casgliad yn rhychwantu'r cyfnod o tua 1450 (Gwilym Tew) hyd gyfnod Ceiriog.
Mae'r beirdd yn cynnwys Edward Morris, Huw Morys, Edward Richard, Twm o'r Nant, Cawrdaf, Robert Davies (Bardd Nantglyn), Dafydd Ddu Eryri, John Blackwell (Alun), Ieuan Glan Geirionydd, Eben Fardd, William Williams (Caledfryn), Talhaiarn, Owen Wynne Jones (Glasynys), William Thomas (Islwyn) a Mynyddog.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- William Lewis Jones (gol.), Caniadau Cymru (Jarvis a Foster, Bangor, 1897; adargraffiad 1907)