Grock

Oddi ar Wicipedia
Grock
Ganwyd10 Ionawr 1880 Edit this on Wikidata
Loveresse Edit this on Wikidata
Bu farw14 Gorffennaf 1959 Edit this on Wikidata
Imperia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Swistir Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, perfformiwr mewn syrcas, pianydd, canwr, fiolinydd, accordionist, clown Edit this on Wikidata

Clown Swisaidd oedd Grock (Charles Adrien Wettach; 10 Ionawr 188014 Gorffennaf 1959).

Ganwyd ym Moulin de Loveresse, canton Bern, yn fab i oriadurwr o Iddew. Cychwynnodd ar ei yrfa berfformio yn bartner i'w dad mewn act gabare. Treuliodd bob haf yn acrobat yn y syrcas, ac yno dechreuodd canu'r feiolin, y piano, a'r seiloffon. Ymunodd â chlown arall o'r enw Brick a newidiodd ei enw i Grock yn 1903. Ymddangosodd y pâr yn Ffrainc, Gogledd Affrica, a De America. Wedi i Brick briodi, ffurfiodd Grock bartneriaeth theatr â'r clown Eidalaidd Antonet, a gweithiodd yn Lloegr o 1911 i 1924. Daeth Grock yn enwog am bortreadu gwirionyn yn mwdlan ganu'r feiolin a'r piano, a bu'n difyrru cynulleidfaoedd ar draws Ewrop nes ei berfformiad ffarwél yn Hambwrg yn 1954. Perfformiodd mewn ambell ffilm, megis Au revoir M. Grock (1950). Ysgrifennodd sawl llyfr yn Almaeneg, gan gynnwys ei hunangofiant Die Memoiren des Königs der Clowns (1956). Bu farw yn Imperia, yr Eidal, yn 79 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Grock (Swiss clown). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Tachwedd 2019.