Y Greal Santaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Greal Sanctaidd)
Y Greal Santaidd
Cwpan Nanteos
Enghraifft o'r canlynolgwrthrych chwedlonol, arteffact archaeolegol, cwpan Edit this on Wikidata
LleoliadIsola Comacina, Colico, Lierna Edit this on Wikidata
Y Greal Sanctaidd yng Nghastell Corbin; llun gan Arthur Rackham, 1917
Mae hon yn erthygl am y llestr santaidd. Am y cylchgronau cynnar gweler Y Greal (1807) a Greal.

Yn ôl mytholeg Gristnogol, y Greal Santaidd neu'r Sangreal oedd y llestr a ddefnyddiodd Iesu yn y Swper Olaf. Dywedid fod gan y llestr yma alluoedd goruwchnaturiol.

Crybwyllir y Greal gyntaf yn Perceval, le Conte du Graal gan Chrétien de Troyes, sy'n dyddio rhwng 1180 a 1191. Cysylltir y Greal Santaidd yn aml a Joseff o Arimathea; ymddengys fod hyn yn dyddio o Joseph d'Arimathie gan Robert de Boron yn ddiweddar yn y 12g, lle dywedir i Joseff dderbyn y Greal gan weledigaeth o'r Iesu a'i yrru gyda'i ddilynwyr i Ynys Brydain. Mewn fersiynau diweddarach, dywedir i Joseff ddefnyddio'r Greal i gasglu gwaed Iesu wrth ei gladdu. Daeth hanes y Greal yn rhan bwysig o'r chwedlau ynghlwm wrth y brenin Arthur, gan ymddangos gyntaf yn y cyswllt yma yng ngwaith Chrétien de Troyes.

Cred rhai ysgolheigion, er enghraifft R. S. Loomis, fod hanes y Greal yn deillio o ffynhonnell Geltaidd, gan gymharu'r llestr â'r cyfeiriadau niferus yn y chwedlau Celtaidd at beiriau rhyfeddol fel y Pair Dadeni, a'r peiriau hynny yn eu tro yn cynrychioli'r duwiesau Celtaidd a gysylltir â ffrwthlondeb, dadeni, a ffynhonnell ddihysbydd bywyd ei hun. Cred eraill mai dim ond tarddiad Cristnogol sydd i'r chwedl.

Yn Gymraeg, nid yw Peredur fab Efrawg yn y Tair Rhamant yn crybwyll y Greal wrth ei enw, er bod y Greal yn elfen bwysig yn y fersiwn Ffranged cyfatebol, Perceval, le Conte du Graal gan Chrétien de Troyes, lle mae Perceval yn cyfarfod y Brenin-Bysgotwr sydd wedi ei anafu, ond nid yw'n gofyn y cwestiwn a fyddai wedi ei iachau. Pan ddaw i wybod am hyn, mae'n ymdynghedu i gael hyd i gastell y Greal. Daw'r cyfeiriad cyntaf at yr enw yn Gymraeg yn Ystoryaeu Seint Greal, cyfieithiad yn y 14g o ddau destun Ffrangeg cynharach.

Mewn fersiynau diweddarach o stori'r Greal yn Ffrangeg a Saesneg, Galahad, mab Lawnslot, yw'r unig farchog sy'n ddigon pur i lwyddo yn yr ymchwil am y Greal.

Yn ddiweddarach, cysylltwyd y Greal a phlasdy Nanteos yng Ngheredigion. Roedd llestr yno a elwid wrth yr enw "Cwpan Nanteos". Dywedid mai hwn oedd y Greal, wedi ei gludo o Ynys Wydrin i Abaty Ystrad Fflur ac yna i Nanteos.

Cyfeiriadau