Galahad

Oddi ar Wicipedia
Llun o Galahad gan George Frederick Watts.

Un o farchogion y brenin Arthur yn y chwedlau Ffrengig a Seisnig amdano yw Galahad. Yn y rhain, mae'n fab i Syr Lawnslot, a'r puraf ei gymeriad o holl farchogion y Ford Gron. Nid yw'n ymddangos yn y chwedlau Cymreig cynnar am Arthur; ymddengys gyntaf yn y Lawnslot-Greal, gwaith Ffrangeg o ddechrau'r 13g. Mae'n gymeriad pwysig mewn gweithiau diweddarach megis Le Morte d'Arthur gan Syr Thomas Malory.

Dywedir iddo gael ei genhedlu pan mae Elaine, merch y brenin Pelles, yn defnyddio dewiniaeth i wneud i Lawnslot gredu mai Gwenhwyfar ydyw. Caiff ei fagu gan abades, yna wedi iddo dyfu mae ei dad yn ei urddo'n farchog a dod ag ef i lys Arthur. Yng ngwaith Malory, ef yn unig o'r marchogion sy'n mynd i chwilio am y Greal Santaidd sy'n llwyddo yn yr ymgais. Wedi iddo lwyddo, caiff ei gipio i'r nefoedd, gan adael ei gymdeithion ar ôl.