Y Ford Gron

Oddi ar Wicipedia
Y brenin Arthur a'i farchogion o gwmpas y Ford Gron.

Ymddengys y Ford Gron mewn fersiynau Ffrengig a Seisnig o chwedlau am y brenin Arthur. Nid yw'n ymddangos yn y traddodiad Cymreig am Arthur. Dywedir i'r Ford Gron gael ei chynllunio fel y gallai marchogion Arthur eistedd o'i chwmpas heb gweryla ynghylch pwy ddylai eistedd ar ben y bwrdd.

Ceir yr hanes cyntaf am y Ford Gron yng ngwaith Wace, y Roman de Brut, er fod y syniad o Arthur yn casglu rhyfelwyr gorau'r deyrnas o'i amgylch yn mynd yn ôl i waith Sieffre o Fynwy, yr Historia Regum Britanniae, chwedlau megis Culhwch ac Olwen a Trioedd Ynys Prydain. Yn ôl Robert de Boron, y dewin Myrddin oedd yn gyfrifol am greu'r ford, yn efelychiad o ford Joseff o Arimathea ar gyfer y Greal Santaidd. Yn ôl gweithiau fel y Lawnslot-Greal a Le Morte d'Arthur gan Thomas Malory, crewyd y Ford Gron ar gyfer tad Arthur, Uthr Bendragon, ac wedi marwolaeth Uthr, cadwyd ef gan Leodegrance, tad Gwenhwyfar, a'i rhoddodd yn anrheg i Arthur pan briododd ei ferch.