Gian Giorgio Trissino

Oddi ar Wicipedia
Gian Giorgio Trissino
Portread o Gian Giorgio Trissino (tua 1525–27).
Ganwyd8 Gorffennaf 1478 Edit this on Wikidata
Vicenza Edit this on Wikidata
Bu farw8 Rhagfyr 1550 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fenis Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, dramodydd, athronydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amL'Italia liberata dai Goti, Sofonisba Edit this on Wikidata

Beirniad llenyddol, ieithegwr, dramodydd, a bardd Eidalaidd oedd Gian Giorgio Trissino (8 Gorffennaf 14788 Rhagfyr 1550).

Ganed ef yn Vicenza, Gweriniaeth Fenis, i deulu cefnog. Teithiodd yn fynych ar draws yr Eidal, ac astudiodd yr iaith Roeg ym Milan ym 1506 ac athroniaeth yn Ferrara ym 1512. Daeth yn gyfeillgar â chylch Niccolò Machiavelli yn Fflorens cyn iddo ymsefydlu yn Rhufain ym 1514, ac yno adnabyddai'r beirniad ac ysgolhaig Pietro Bembo a'r dramodydd Giovanni di Bernardo Rucellai.[1] Gwasanaethai'r pabau Leo X a Clement VII, a chynrychiolodd Daleithiau'r Babaeth ar sawl cenhadaeth ddiplomyddol.[2] Cynigodd Trissino addysg yn ei academi i saer maen ifanc o'r enw Andrea di Pietro della Gondola, ac aethant ar ddwy daith i Rufain a gâi ddylanwad mawr ar ei ddatblygiad yn bensaer; Trissino a rodd iddo'r enw Palladio. Bu farw Gian Giorgio Trissino yn Rhufain yn 72 oed.[1]

Prif gyfraniad Trissino i lenyddiaeth y Dadeni oedd adfywio'r ddrama Eidaleg ar batrwm y ddrama Hen Roeg, trwy gyfrwng ei drasiedi ddiodl Sofonisba (ysgrifennwyd 1514–15, cyhoeddwyd 1524, perfformiwyd 1562). Ysgrifennodd yr honno ar sail hanes Lifi o Ryfeloedd Carthago, gyda thechnegau'r dramodwyr Groegaidd Soffocles ac Ewripides, gan gynnwys defnydd corawdau i wahanu episodau'r stori. Esiampl o ddyneiddiaeth y Dadeni ydyw, am iddi hepgor themâu crefyddol a didactigiaeth, ac yn wahanol i ddramâu Eidaleg eraill y cyfnod mae'n tynnu ar y theatr Roeg ac egwyddorion barddonol Aristotelaidd yn hytrach na dramâu Lladin Seneca'r Ieuaf.[2] Sofonisba oedd y ddrama Eidaleg gyntaf ar fydr moel, a chyfansoddodd Trissino hefyd y pryddestau Eidaleg cyntaf ar batrymau barddoniaeth delynegol y Groegwr Pindar a'r Rhufeiniwr Horas. Mae ei arwrgerdd La Italia liberata da' Gotthi (27 llyfr; 1547–48) yn traethu gorchfygiad yr Eidal gan y Cadfridog Belisarius, ar orchymyn yr Ymerawdwr Bysantaidd Iwstinian, yn y 6g, ar fesur moel gydag arddull Homeraidd. Ysgrifennodd hefyd gomedi ar gân, I simillimi (cyhoeddwyd 1548), ar sail Menaechmi gan Plautus a chyda strwythur yn null Aristoffanes.

Lluniodd Trissino ei ddamcaniaeth lenyddol yn ei draethawd La poetica (1529), gan ddefnyddio esiamplau o farddoniaeth Eidaleg i eglurebu ei ddadleuon. Mae ei weithiau beirniadol ac ieithyddol eraill yn cynnwys yr Epistola (1524), llythyr i Clement VII ar bwnc diwygio sillafu; a'r traethodau gramadegol Grammatichetta a Dubbii grammaticali (1529).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Gian Giorgio Trissino. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Chwefror 2023.
  2. 2.0 2.1 Thomas G. Bergin a Jennifer Speake, Encyclopedia of the Renaissance and the Reformation (Efrog Newydd: Facts On File, 2004), tt. 473–74.