Giovanni di Bernardo Rucellai

Oddi ar Wicipedia
Giovanni di Bernardo Rucellai
Engrafiad o Giovanni di Bernardo Rucellai gan Giacomo Malosso yn y 19g, ar sail portread ym meddiant y teulu Rucellai.
Ganwyd20 Hydref 1475 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ebrill 1525 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fflorens Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, diplomydd, dramodydd Edit this on Wikidata
Swyddllysgennad Edit this on Wikidata
TadBernardo Rucellai Edit this on Wikidata
MamNannina de' Medici Edit this on Wikidata
PerthnasauPab Leo X Edit this on Wikidata
Llinachteulu Rucellai Edit this on Wikidata

Dyneiddiwr, bardd a dramodydd Eidalaidd oedd Giovanni di Bernardo Rucellai (20 Hydref 147513 Ebrill 1525). Ganed ef i deulu o uchelwyr cyfoethog yng Ngweriniaeth Fflorens, yn fab i Bernardo Rucellai a'i wraig Nannina, chwaer Lorenzo de' Medici. Gwasanaethodd y pabau Leo X a Clement VII, a fe'i penodwyd yn gastellydd Castel Sant'Angelo yn Rhufain, ac yno y bu farw yn Rhufain yn 49 oed. Rhoddwyd iddo'r enw "Il castellano" gan ei gyfaill Gian Giorgio Trissino.[1]

Ysgrifennodd ddwy drasiedi, yn arddull y Groegwr Ewripides, Rosamunda (1515) ac Oreste (1525), ac hefyd cerdd ddidactig am wenyn, Le Api (cyhoeddwyd wedi ei farwolaeth ym 1539), ar sail pedwerydd llyfr y Georgicon gan y Rhufeiniwr Fyrsil.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Eidaleg) "Rucellài, Giovanni", Enciclopedia on line (Treccani). Adalwyd ar 4 Chwefror 2023.