Gareth Thomas (actor)

Oddi ar Wicipedia
Gareth Thomas
Ganwyd12 Chwefror 1945 Edit this on Wikidata
Brentford Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ebrill 2016 Edit this on Wikidata
Surrey Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor ffilm, actor teledu, actor llwyfan Edit this on Wikidata
Arddullcomedi Shakespearaidd Edit this on Wikidata
Gweler hefyd y tudalen gwahaniaethu Gareth Thomas.

Actor Cymreig oedd Gareth Thomas (12 Chwefror 194513 Ebrill 2016). Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei ran yn chwarae Roj Blake yng nghyfres deledu gwyddonias Blake's 7 ar y BBC, ond ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu, yn cynnwys Shem yng nghyfres wyddonias ITV, Star Maidens ac fel Adam Brake yng nghyfres ffantasi Children of the Stones.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Magwyd Thomas yn Aberystwyth.[1] Hyfforddwyd Thomas yn RADA a daeth yn Aelod Cyswllt. Fe'i henwebwyd ddwywaith am BAFTA am ei berfformiad yn Stocker's Copper (BBC Play for Today) (1972) a Morgan's Boy (1984).

Mae peth o'i waith teledu arall yn cynnwys The Avengers, Coronation Street, Z-Cars, Special Branch, Sutherland's Law, Public Eye, Who Pays the Ferryman?, Bergerac, By the Sword Divided, The Citadel, Knights of God, Boon, London's Burning, Casualty, Taggart, Heartbeat, Sherlock Holmes, How Green Was My Valley, Torchwood a Midsomer Murders.

Ymddangosodd Thomas mewn nifer o gynyrchiadau ar lwyfan. Mae perfformiadau nodedig yn cynnwys cynyrchiadau RSC o Twelfth Night, Othello ac Anna Christie; cynyrchiadau English Shakespeare Company o Henry IV, Part 1 a Part 2 a Henry V; a King Lear, Educating Rita, Cat on a Hot Tin Roof, The Crucible, Equus a Déjà Vu. Yn 2010 cafodd glod am ei berfformiad fel Ephraim Cabot yn Desire Under the Elms yn theatr y New Vic. Yn 2000 roedd yn destun cyntaf y gyfres cyfweliad/drama ar gryno ddisg The Actor Speaks gan MJTV. Mewn un o'r cyfweliadau mae'n sôn am ei gymeriad Blake yn Blake's 7.

Rhwng 1999 a 2005 cymerodd Thomas ran mewn 12 allan o 14 pennod o gomedi gwyddonias wreiddiol MJTV gyhoeddwyd ar CD sain. Yn y gyfres Soldiers of Love, roedd yn chwarae'r cyflwynydd teledu camp Gymreig Hywel Hammond a dihiryn y darn Aaron Arkenstein.

Yn 2001 fe ymddangosodd yn Storm Warning, drama sain wedi ei seilio ar Doctor Who a gynhyrchwyd gan Big Finish Productions. Roedd hefyd yn chwarae rhan Kalendorf yng nghynhyrchiad Big Finish Productions o gyfres Dalek Empire. Yn 2006 fe ymddangosodd fel seren gwadd yng nghyfres Torchwood, ym mhennod "Ghost Machine". Yn 2012, dychwelodd i ran "Roj Blake" yng nghynhyrchiad Big Finish Productions o Blake's 7: The Liberator Chronicles, cyfres o ddarlleniadau dramatig sy'n cymryd lle yn ystod Cyfres Un cyn marwolaeth Oleg Gan. Roedd Thomas hefyd yn serennu fel "Blake" yn Counterfeit gan Peter Anghelides a False Positive gan Eddie Robson. Yn 2013 fe ymddangosodd fel Brother Cadfael yn addasiad cwmni theatr Middle Ground o The Virgin in the Ice gan Ellis Peters.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ar ôl sawl blwyddyn yn byw yn ardal Gororau'r Alban, symudodd Thomas i Surrey yn 2009. Bu farw ar 13 Ebrill 2016 o fethiant y galon, yn 71 oed.[2][3]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • 1965 Romeo and Juliet (Ffilm Deledu) (Benvolio)
  • 1967 Quatermass and the Pit (Gweithiwr)
  • 1967 The Avengers - Murdersville (Llofrudd)
  • 1969 The Wednesday Play - The Apprentices (Porthor)
  • 1969-1970 Parkin's Patch (Ron Radley) (21 pennod)
  • 1971 Coronation Street (Mel Ryan)
  • 1971, 1972 Z-Cars (2 bennod)
  • 1971, 1972 Public Eye (2 bennod)
  • 1972 Man at the Top - You Will Never Understand Women (Dave Croxley)
  • 1972 No Exit (Matthew)
  • 1972 The Ragman's Daughter (Tom)
  • 1972 Harriet's Back in Town (Gyrrwr) (4 pennod)
  • 1973 Sutherland's Law (Alec Duthie) (8 pennod)
  • 1973 Blue Movie Blackmail (Ditectif mewn Cot fawr)
  • 1974 Juggernaut (Liverpool Joiner)
  • 1974 David Copperfield (Cyfres deledu fer) (Mr. Murdstone) (2 bennod)
  • 1975 Edward the Seventh (Lord Charles Beresford) (2 bennod)
  • 1975-1976 How Green Was My Valley (Rev. Mr. Gruffydd) (6 pennod)
  • 1976 Jackanory (Narrator) (5 pennod)
  • 1976 Star Maidens (Shem) (8 pennod)
  • 1977 Children of the Stones (Adam Brake) (7 pennod)
  • 1977 Who Pays the Ferryman? (Tony Viglis)
  • 1978-1981 Blake's 7 (Roj Blake) (28 pennod)
  • 1980 Hammer House of HorrorVisitor from the Grave (Cwnstabl)
  • 1981 Peter and Paul (Julius)
  • 1982 The Bell (James Tayper) (4 pennod)
  • 1983 Bergerac (Towers)
  • 1983 The Citadel (Philip Denny) (6 pennod)
  • 1984 The Adventures of Sherlock Holmes (Joseph Harrison)
  • 1984 Strangers and Brothers (Arthur Mounteney) (2 bennod)
  • 1984 Morgan's Boy (Morgan Thomas) (8 pennod)
  • 1985 By the Sword Divided (Major General Horton) (3 pennod)
  • 1985 Dramarama (Long John Silver)
  • 1987 Knights of God (Owen Edwards) (10 pennod)
  • 1988 Tales of the UnexpectedThe Colonel's Lady (Telfer)
  • 1989 After the War (Guy Falcon) (2 bennod)
  • 1989-1992 London's Burning (Bulstrode) (7 pennod)
  • 1989 Boon (Bill Stone)
  • 1989 Chelworth (Peter Thornton) (4 pennod)
  • 1990 Emlyn's Moon (Mr. Llewelyn) (5 pennod)
  • 1991 We Are Seven (Big Bill Caradog)
  • 1991 The Chestnut Soldier (Idris Llewelyn) (4 pennod)
  • 1992 Maigret (Gautier)
  • 1993 Sparrow (Corrado)
  • 1994 Medics
  • 1995 Crown Prosecutor (Harry Thomsen) (2 bennod)
  • 1995,2002 Casualty (2 bennod)
  • 1996 The Witch's Daughter (Ffilm Deledu) (Dan Mackay)
  • 1998 Merlin: The Quest Begins (Blaze)
  • 1998 The Creatives (Policeman)
  • 1998 Animal Ark (Mr. Matthews)
  • 1998-2004 Heartbeat (Nathaniel Clegghorn) (6 pennod)
  • 2000 Randall and Hopkirk (Dickie Bechard)
  • 2000 The Strangerers (Sarjant Heddlu)
  • 2001 Baddiel's Syndrome (3 pennod)
  • 2001 Doctors (Les Simms)
  • 2002 Shipman (Rev Denis Thomas)
  • 2004 Taggart (Lord Falkland)
  • 2005-2008 Distant Shores (Charles McCallister) (11 pennod)
  • 2006 TorchwoodGhost Machine (Ed Morgan)
  • 2007 Midsomer Murders (Huw Mostyn)
  • 2008 M.I. High (Patrick Houston)
  • 2009 Personal Affairs (Leo Hartmann)
  • 2010 Made in Romania (Gary Devane)
  • 2011 Holby City (Gareth Harper)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Karen Price. Welsh actor Gareth Thomas on bringing the world stage premiere of Cadfael to Wales (en) , walesonline.co.uk, Media Wales, 13 Mai 2013. Cyrchwyd ar 14 Ebrill 2016.
  2. (Saesneg) Gareth Thomas 1945 - 2016. blakes7online.com (13 Ebrill 2016).
  3. "Blake's 7 star Gareth Thomas dies at age 71" (yn Saesneg). Digital Spy. 13 Ebrill 2016. Cyrchwyd 14 Ebrill 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]